Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud na fydd yn cydymffurfio gydag “unrhyw orchymyn o San Steffan” i chwifio baner Jac yr Undeb o’i adeiladau.

Daw hyn ar ôl i gais cynllunio llwyddiannus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i arddangos baner enfawr Jac yr Undeb ar ochr adeilad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd sbarduno ymateb ffyrnig.

Mae polisi baner bresennol Gwynedd yn nodi mai dim ond ar ddiwrnod angladd aelod o’r Teulu Brenhinol y mae’n rhaid hedfan Baner Jac yr Undeb.

Ym mis Mawrth cyhoeddodd Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Diwylliant, y byddai holl adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn chwifio’r faner bob dydd.

“Mae baner yr Undeb yn ein huno fel cenedl ac mae pobol yn iawn i ddisgwyl iddi gael ei hedfan uwchben adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai ar y pryd.

“Bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod hynny’n digwydd bob dydd, oni bai bod baner arall yn cael ei hedfan, fel nodyn atgoffa balch o’n hanes a’r cysylltiadau sy’n ein rhwymo.”

Wrth ymateb i gwestiwn yn ystod y cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Iau (8 Gorffennaf), dywedodd aelod o gabinet Cyngor Gwynedd nad oes unrhyw gynlluniau i chwifio’r faner o adeiladau’r cyngor.

‘Hyrwyddo diwylliant a chenedligrwydd Cymru’

Dywedodd Nia Jeffreys, deiliad Porfolio Cyngor Gwynedd: “Mae canllawiau ac anogaeth wedi’u rhoi i chwifio baner yr undeb, ond ni sy’n gyfrifol am ein polisi baner ein hunain.

“Yn ddiweddar roedd galwadau am ddiwrnod yn y Deyrnas Unedig gydag ysgolion i ymuno mewn cân o foliant i’r undeb a chryfder yr undeb.

“Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ddyfeisio’r syniad, ar yr un diwrnod, i blant ganu Hen Wlad Nhadau gydag ysgolion ar draws Gwynedd yn ymuno ar ôl cael eu hannog gan ein hadran addysg.

“Rwy’n credu ein bod yn gwneud popeth o’n gallu fel cyngor i hyrwyddo ein diwylliant a chenedligrwydd Cymru.

“Yng Ngwynedd rydym yn dathlu ein hunaniaeth Gymreig ar bob cyfle.

“Rydym yn hedfan Y Ddraig Goch yn falch ar holl adeiladau ein cyngor ac ni fydd unrhyw orchymyn gan San Steffan nac unrhyw le arall yn newid hynny.”

Jac yr Undeb enfawr i gael ei rhoi ar ochr Swyddfa Dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd

Daw hyn ar ôl i Gyngor Caerdydd roi sêl bendith i’r cynlluniau gan fod y faner yn cael ei ystyried yn “hysbyseb”.