Mae’r Urdd wedi ennill dwy wobr gyntaf am ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 yn seremoni wobrwyo Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2021 heddiw (9 Gorffennaf).

Enillodd yr Urdd wobrau am Heddychwyr Ifanc Digidol y Flwyddyn a Heddychwyr Ifanc y Flwyddyn.

‘Cydraddoldeb i Ferched’ oedd thema Neges Heddwch y mudiad eleni, a gafodd ei lunio gan griw o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.

Mae’r gwobrau’n gyfle i ddathlu cyfraniad cadarnhaol pobol ifanc ledled Cymru at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang.

Cafodd y Neges ei rhyddhau ar ffurf fideo fis Mai, a hynny ar achlysur 99 mlynedd o gyhoeddi’r neges yn ddi-dor.

 

Fe gafodd y neges ei chyfieithu i 65 iaith a chyrhaeddodd y fideo dros 84 miliwn o bobol mewn 59 gwlad, a llwyddodd i ddenu cefnogaeth gan sefydliadau ac enwogion megis UN Women a Hillary Clinton.

“Anrhydedd fawr”

Roedd derbyn y gwobrau yn “anrhydedd fawr” i’r Urdd a’r unigolion a gyfrannodd at y Neges Heddwch ac Ewyllys Da, meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mi roedd y cydweithio gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn hynod bwerus, a diolch iddynt hwy fe grëwyd un o’n negeseuon mwyaf grymus yn ein hanes.

“Diolch hefyd i’r Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am y gydnabyddiaeth o’r gwaith caled ac am nodi llwyddiant rhannu’r neges ymhell ar draws y byd i dros 59 o wledydd. Ymlaen i ddathlu ein canmlwyddiant yn 2022!”

Eleni oedd y chweched tro i seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru gael ei chynnal, a chafodd y gwobrau eu trefnu gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Roedd enillwyr yn derbyn gwobrau am weithiau celf, gwaith ysgrifenedig a ffilm, yn ogystal â’u cyfraniadau fel dinasyddion lleol a byd-eang.