Mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi tri phrif gynnig i ysgolion er mwyn dod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl cyn tymor yr Hydref.
Fel rhan o’r newidiadau, ni fydd angen gwisgo mygydau yn rheolaidd mewn ystafelloedd dosbarth ym mis Medi.
Heddiw (9 Gorffennaf), fe wnaeth Jeremy Miles ysgrifennu ar bob pennaeth ysgol yng Nghymru i roi mwy o eglurder ynglŷn â sut y gall ysgolion a cholegau barhau i weithredu’n ddiogel o fis Medi ymlaen.
Wrth barhau i fonitro cyfraddau achosion covid ledled Cymru, a sut maen nhw’n effeithio ar dderbyniadau i ysbytai, mae llwyddiant y rhaglen frechu yn rhoi achos i fod yn optimistaidd ynghylch y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.
Gyda chyfyngiadau’n llacio ar draws y gymdeithas, dylai lleoliadau addysgol weld yr un patrwm, meddai.
Ni fydd angen grwpiau cyswllt mwyach ar gyfer disgyblion ysgol na dysgwyr llawn amser mewn colegau chwaith, a bydd y system Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei defnyddio er mwyn nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi’n bositif.
“Trin yr un fath â phawb arall”
Yn ôl Jeremy Miles, mae mwy o dystiolaeth yn dangos bod plant a phobol ifanc yn profi mwy o niwed o golli’r ysgol nag yn sgil Covid.
“Erbyn diwedd mis Medi bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y ddau frechlyn, gan ddarparu mwy o ddiogelwch i’n gweithlu addysg,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru.
“Mae corff cynyddol o dystiolaeth hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc yn profi mwy o niwed o golli’r ysgol nag o covid.
“Mae llawer o’r bobl ifanc rydw i wedi siarad â nhw wedi dweud nad ydyn nhw’n credu bod y system bresennol yn gymesur. Maen nhw eisiau cael eu trin yr un fath â phawb arall – ac mae hynny’n swnio’n deg i mi.”
Cyhoeddi fframwaith
Bydd Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau tymor yr hydref, fel bod ysgolion yn cael amser i ymgorffori systemau newydd yn ystod yr wythnosau sy’n dilyn.
Bydd y fframwaith yn galluogi ysgolion a cholegau i deilwra rhai o’r ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg yn lleol.
Fe fydd yr ysgolion yn cael eu cefnogi gan swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau’n briodol i’w hamgylchiadau.
“Cyn dechrau eich seibiant cwbl haeddiannol dros yr haf eleni hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i fynegi fy niolchgarwch am eich holl waith caled a’ch ymdrech yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf,” ychwanegodd y Gweinidog Addysg.
“Rwy’n gobeithio y bydd y seibiant yn gyfle i chi, a’ch staff, edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf gyda balchder aruthrol – rydych chi wedi dangos penderfyniad a gwytnwch anfesuradwy wrth gefnogi’r dysgu a chadw lleoliadau addysg mor ddiogel â phosibl o ran covid. Diolch o galon i chi.”