Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan honni bod yn rhaid i’r Cymry dalu tua dwbl y gost am brofion cofid wrth ddychwelyd o dramor, o gymharu â phobl mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Tra mae Llywodraeth Cymru yn anfon pobol i ddefnyddio profion gan gwmni sy’n costio £88 yr un, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi’r dewis i bobol yn Lloegr ddefnyddio cwmni sy’n cynnig prawf cofid cymwys am £29.

Ac mae Russel George, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn dweud iddo dderbyn cwynion bod y sefyllfa yn un annheg.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud yn gyson eu bod am fynd ar drywydd Cymreig wrth ddelio â covid ond os ydyn nhw’n mynnu dilyn llwybr ei hun, mae’n rhaid ei fod yn deg, heb daro pobl yn ariannol.

“Mae etholwyr yn cysylltu gydag Aelodau o’r Senedd ynghylch yr ‘anghyfiawnder’ wrth iddi ymddangos fod pobl o Gymru yn cael eu trin yn annheg o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

“Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnig un prawf PCR am cofid gan gwmni ‘Corporate Travel Management’. Cost dau brawf PCR yw £170 ar gyfer pob person dros 5 mlwydd oed ac £88 am un prawf.”

“Tydi o ddim yn gwneud synnwyr”

 

Roedd Gruffudd Mckee yn gobeithio teithio dramor eleni i wylio’r gemau pêl-droed yng nghystadleuaeth yr Ewros.

Ond wnaeth o ddim oherwydd pris prawf cofid PCR yng Nghymru.

Wrth siarad â golwg360 fe ddywedodd “Wel, tydi o ddim yn gwneud synnwyr. Ro’n i fod mynd mas i’r Ewros ac roedd prisiau hediadau i lefydd fel Baku, er enghraifft, yn eithaf rhad, a dweud y gwir, o gymharu â’r arfer.

“Ond eto roedd prisiau’r profion PCR bron yn ddwbl neu’n deirgwaith pris yr hediad.

“Ar ôl asesu’r prisiau hynny, o ni methu fforddio talu prisiau’r prawf PCR, felly roeddwn i methu mynd, sy’n siom”

“Ddim yn deg”

Ychwanegodd: “Dydy o jyst ddim yn deg iawn inni yng Nghymru yn gyffredinol. Os y’ch chi’n sbïo ar yr Ewros yn benodol, gath Cymru ddim cymaint o gefnogaeth a hynny ac efallai roedd y prisiau uchel yma wedi cyfrannu at hynny”.

Yn Lloegr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi dewis i bobl o gyflenwyr profion sy’n amrywio mewn pris. Gellir hawlio dau brawf am tua hanner y pris a gynigir gan Lywodraeth Cymru, meddai’r Ceidwadwyr.

Fe ychwanegodd  Russel George fod “llawer o bobl yng Nghymru wedi treulio 18 mis heb weld eu hanwyliaid sy’n byw dramor”.

“Plant heb weld Mam-gu na Thad-cu a bydd sawl babi newydd-anedig bron yn ddau cyn iddynt allu gweld eu teuluoedd.

“Gyda’r cynllun brechu yn mynd o nerth i nerth fe ddylai pobl sydd am fynd dramor allu gwneud hynny ac fe ddylai Llywodraeth Lafur Cymru sicrhau fod yna brofion fforddiadwy, cywir a phroses deg o brofi mewn lle”.

‘Neges yn parhau i fod yn glir’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Dylid archebu profion drwy wefan ‘Corporate Travel Management’.

“Dyma’r asiant sy’n archebu ar gyfer y gwasanaeth Profi Ac Olrhain ac mae nhw’n cael eu prosesu drwy ‘UK Lighthouse Laboratory Network’.

“Dydyn nhw ddim yn darparu’r profion hyn ac mae’r pris ar gyfer profion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yr un fath ledled y DU.

“Mae ein neges yn parhau i fod yn glir, mai dim ond am resymau hanfodol y dylech deithio dramor.

“Er mwyn dod i mewn i’r DU rhaid i chi allu dangos prawf nad oes ganddo chi cofid.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’n rhaid hunan-ynysu am 10 diwrnod.

Mae hefyd disgwyl i berson drefnu prawf drwy Corporate Travel Management.