Bydd rhieni a chefnogwyr yn gwneud safiad yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Abersoch yng Ngwynedd ddydd Llun (12 Gorffennaf).
Am 1 o’r gloch y prynhawn, byddan nhw’n casglu ar draeth y pentref gyda baneri i ddangos eu gwrthwynebiad tuag at benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol.
Gyda chapasiti o 32, mae wyth o blant yn mynychu’r ysgol yn llawn amser a dau ddisgybl meithrin ar hyn o bryd – sy’n golygu fod 76% o lefydd gweigion yn yr ysgol.
Nid yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd disgyblion Ysgol Abersoch dros y blynyddoedd nesaf, a’r niferoedd isel o ddisgyblion sy’n gyfrifol am benderfyniad y Cyngor i’w chau.
Er hynny, mae Anna Jones, sy’n gyn-Brif Athrawes yn Ysgol Abersoch, yn dweud bod niferoedd y disgyblion wedi bod yn anghyson ers i’r ysgol agor yn 1924.
Niferoedd yn mynd a dod
“Dw i wedi bod yn edrych bore yma, o’r amser mae hi wedi’i hagor yn 1924, mae yna fynd a dŵad [yn y niferoedd], weithiau mae’n mynd yn isel, weithiau mae’n codi,” meddai Anna Jones wrth golwg360.
“Rŵan bod yr hinsawdd yn newid, mae pobol yn symud i mewn [i Abersoch], yn gam neu’n gymwys, maen nhw eisio i’w plant fynd i ryw ysgol.
“Mae o’n codi, fedra ni eu troi nhw’n Gymry dros nos.”
Roedd Anna Jones yn Brif Athrawes yn Abersoch rhwng 1996 a 2003, ac 11 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol pan ddechreuodd hi.
“Ond aeth o fyny wedyn i 30, oherwydd fel yna mae Abersoch. Mae o’n mynd ac yn dod.
“Meddwl dw i rŵan, mae yna bobol yn gweithio o adref a fydden nhw’n dod yma i fyw, ac wedyn fydd [niferoedd disgyblion] yr ysgol yn chwyddo.
“Ond dyda ni ddim yn cael cyfle i wneud hynny.”
“Lladd Cymreictod”
Mae Anna Jones yn creud mai camgymeriad yw cau’r ysgol ac y bydd yn “lladd Cymreictod” y pentref ar arfordir Pen Llyn sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a pherchnogion tai haf.
“Abersoch ydi’r pentref mwyaf yng Ngwynedd, maen nhw’n cael yr holl arian yma o’r tai haf o’r busnesau, ac eto maen nhw’n lladd y Cymreictod yma,” meddai’r cyn-Brif Athrawes.
“Achos bod [Cyngor Gwynedd yn] haeru bod nhw mor Gymreig, ac eto maen nhw’n lladd y peth yma yn y pentref.
“Dw i ddim yn ei ddeall o.”
“Fel addysg breifat, bron,
“Dw i’n gredwr mawr mewn ysgolion bach… dw i’n meddwl eu bod nhw’n cael addysg arbennig iawn, mae o fel addysg breifat, bron,” meddai Anna Jones, gan ddweud ei bod hi wedi bod yn dysgu mewn ysgol â 300 o ddisgyblion yn y de cyn dod yn Brif Athrawes yn Abersoch.
“Dw i’n deall y pethau ariannol. Ond mae’r holl arian yn cael ei roi i’r pentref, i’r tai haf a’r cynllunio, ond eto wnawn nhw ddim gwneud rhywbeth i’r Cymry sydd yma.
“Rhaid i chi aros, mae’r ysgol yn mynd a dod, mae’n dibynnu ar y boblogaeth yn y pentref.
“Dw i’n teimlo’n gryf o ran y Cymreictod, o ran hunaniaeth y pentref. Rydan ni’n ymladd yn galed i’w gadw fo i fynd.
“Mae pawb yn wfftio at Abersoch, ac maen nhw’n mynd ’mlaen a ’mlaen am bob man arall, ac rydan ni fel ein bod ni wedi cael ein gadael.
“Ond rydan ni yn dal i ymladd, mae’r plant yma yn troi’n Gymry. Mae pobol yn dweud ei bod hi rhy hwyr – dydi hi byth rhy hwyr.
“Rhaid i chi ddal i ymladd, tydach chi ddim yn rhoi i fyny hyd y pen diwethaf…
“Felly dw i beth bynnag. Wedyn ddydd Llun rydan ni’n cael diwrnod ar y traeth – fflagiau a ballu – i godi ymwybyddiaeth.”
“Fydd yna ddim byd llawer ar ôl”
Mae cau’r ysgol yn tristau Anna Jones am sawl rheswm.
“Y prif reswm ydi bod o’n mynd â phrif adnodd cynhenid Cymreig y pentref wrth gau’r ysgol.
“Fydd yna ddim byd llawer ar ôl wedyn, a thrwy’r ysgol rydyn ni’n gallu ffrydio allan y Gymraeg achos mae plant y pentref yng nghanol y pentref, maen nhw’n mynd i’r siopau… maen nhw wedi gallu trosglwyddo’r iaith i nifer o bobol y pentref, maen nhw’n ddwyieithog.
“Maen nhw’n mynd at Ferched y Wawr, Sefydliad y Merched, yr henoed i roi cyngherddau, ond fydd yna ddim byd wedyn i godi ymwybyddiaeth i’r iaith yn y pentref, heblaw am y Capel.”
Rhesymeg Cyngor Gwynedd
Wrth egluro rhesymeg y cyngor sir lleol dros gau Ysgol Abersoch, dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:
“Nid ar chwarae bach mae cyflwyno’r adroddiad yma, ond mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.
“Wedi gwerthuso’r holl opsiynau yn fanwl, ac ystyried y rhagamcanion y bydd niferoedd disgyblion yr ysgol yn parhau’n bryderus o isel am y blynyddoedd i ddod, mae’r argymhelliad y dylai Ysgol Abersoch gau ddiwedd 2021.
“Fel rhan o’r cynnig, byddai’r disgyblion yn cael cynnig mynychu Ysgol Sarn Bach sydd gerllaw o fis Ionawr 2022. Yn naturiol mae awydd clir wedi bod yn y pentref i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion eisoes yn mynychu o oed Cyfnod Allweddol 2.”