Mae Siôn Jobbins wedi cyhoeddi ei fod wedi penderfynu rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd YesCymru.

Ers iddo ddod yn Gadeirydd ddwy flynedd a hanner yn ôl, mae aelodaeth y mudiad wedi cynyddu o 750 i 18,000, a miloedd wedi mynychu ralïau’r criw sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Gymru.

Mewn datganiad dyweda Siôn Jobbins nad ydi hi wedi bod yn bosib iddo ymdopi â phwysau’r rôl wirfoddol o fod yn Gadeirydd, sy’n ychwanegol at ei waith cyflogedig, yn ddiweddar.

Pwysleisia ei fod yn sefyll lawr i “sicrhau bod gan YesCymru y Cadeirydd sydd ei hangen arni ar gyfer y cyfnod newydd yma”, ac nad yw’n sefyll “lawr mewn protest, i wneud pwynt gwleidyddol, nac oherwydd pwysau gan eraill”.

Bydd Siôn Jobbins yn parhau’n aelod “balch iawn” o YesCymru, a bydd yn cefnogi’r Cadeirydd newydd, gan ddweud mai bod yn Gadeirydd oedd “braint a gwefr” mwyaf ei fywyd.

Bydd Sarah Rees yn cymryd drosodd fel Cadeirydd dros dro.

“Newyd bywyd”

“Rwy’n sefyll i lawr i sicrhau bod gan YesCymru y Cadeirydd sydd ei hangen arni ar gyfer y cyfnod newydd yma,” meddai Siôn Jobbins.

“Dwi ddim yn camu i lawr mewn protest, i wneud pwynt gwleidyddol nac oherwydd pwysau gan eraill.

“Rwy’n sefyll i lawr am resymau personol yn unig – oherwydd fy iechyd.

“Mae rôl fel hon yn newid bywyd rhywun, rwyf wedi bod yn Gadeirydd am dros ddwy flynedd a hanner, ac yn ddiweddar nid wyf wedi gallu ymdopi â phwysau’r rôl wirfoddol sy’n ychwanegol at fy ngwaith cyflogedig.

“Ers 2018 mae aelodaeth YesCymru wedi cynyddu o 750 i 18,000 o aelodau – mae hyn wedi bod y tu hwnt i unrhyw beth yr oeddem wedi ei ddychmygu fyddai’n bosibl, ac yn hollol annisgwyl.

“Ar yr un pryd, mae’r dirwedd wleidyddol wedi newid yn sylweddol ac ni fu’r gefnogaeth i annibyniaeth erioed yn gryfach ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Ac eto gyda’r math hwn o dwf, mae disgwyliadau, cyfrifoldebau, galwadau am ganlyniadau a’r angen am newidiadau strwythurol i’n sefydliad wedi dod i’r amlwg.

“Mae hon, rwy’n siŵr, yn broses arferol iawn i bob sefydliad sy’n tyfu’n gyflym, ac mae’n pwyso’n drwm arna i.

“Bellach mae angen Cadeirydd ar YesCymru sydd â’r sgiliau trefniadol hynny.”

“Mudiad torfol”

“Mae YesCymru wedi tyfu o fod yn griw craidd i fudiad torfol. Gyda hynny daw llawer o wahanol safbwyntiau a syniadau ynghylch pam mae angen Cymru annibynnol a sut olwg fydd arni,” ychwanega.

“Mae’n bwysig ein bod ni, trwy hyn i gyd, yn parhau yn gryf, gan ein bod ni eisoes yn gallu gweld bod San Steffan yn bachu pwerau oddi ar Gymru. Mae angen i YesCymru aros yn fudiad torfol.

“Mae wedi rhoi gobaith i filoedd, mae annibyniaeth wedi dod yn rhan arferol o’r sgwrs wleidyddol yng Nghymru, mae wedi ysbrydoli ffrwydrad o weithgaredd cymunedol, cerddoriaeth a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Bod yn Gadeirydd YesCymru oedd braint a gwefr mwyaf fy mywyd. Wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd yn y 1970au a’r 80au, ni allwn fyth ddychmygu y gallai mudiad dros annibyniaeth fel YesCymru fodoli – ond fe ddaeth ac fe fydd – nes i ni ennill lle haeddiannol i Gymru fel cenedl annibynnol.

“Byddaf yn parhau i fod yn aelod balch iawn o YesCymru ac yn cefnogi’r Cadeirydd newydd, pwy bynnag ydyn nhw, yn llawn. Fodd bynnag, am y tro, mae angen i mi roi lles fy hun a fy nheulu yn gyntaf.”