Mae angen nodi nifer y calorïau ar boteli cwrw a diodydd alcoholig, yn ôl ymgyrchwyr iechyd.

Yn ôl y Cynghrair Iechyd Alcohol ac elusen Alcohol Focus Scotland, dylid newid y gyfraith fel bod nifer y calorïau mewn diodydd yn cael ei nodi’n glir ar y labeli.

Daw hyn wedi i arolwg gan YouGov ddangos mai dim ond chwarter y bobol a gafodd eu holi wnaeth amcangyfrif yn gywir mai rhwng 120 a 359 calori sydd mewn peint o lager.

Dim ond 22% oedd yn gwybod fod rhwng 67 a 200 o galorïau mewn gwydr maint canolig o win.

Ar y funud mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid dangos cryfder yr alcohol (ABV) ar gynnyrch alcoholig, unedau, ac alergenau. Mae cyfeirio at y cynhwysion, gwybodaeth am faeth, a pheryglon iechyd yn opsiynol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ymgynghori ar y mater, ac mae’r ymgyrchwyr am iddi ddod yn gyfraith gwlad bod yn rhaid cael mwy o wybodaeth ar labeli diodydd alcoholig.

“Penderfyniadau deallus”

“Mae labeli alcohol yn y wlad yn methu â rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch be’n union sydd yn y ddiod,” meddai’r Athro Ian Gilmore, Cadeirydd y Gynghrair Iechyd Alcohol.

“Mae dangos gwybodaeth sylfaenol am y cynnyrch, fel nifer y calorïau, yn galluogi’r sawl sy’n ei yfed i wneud penderfyniadau deallus ynghylch beth, a faint, maen nhw am ei yfed.

“Dylai’r wybodaeth gael ei ddangos yn glir ar y cynnyrch maen nhw’n ei brynu. Ni ddylen nhw orfod chwilio am wybodaeth iechyd sylfaenol ar-lein.

“Mae’r ymgynghoriad gan y Deyrnas Unedig ar labelu calorïau’n gyfle gwych i greu newid.

“Byddai ei gwneud hi’n ofynnol i ddangos nifer y calorïau mewn diodydd alcoholig yn helpu i wneud labelu alcohol yn debycach i labelu bwyd a diodydd meddal, a byddai’n helpu i fynd i’r afael â’r ffaith nad yw’r rhan fwyaf o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn gwybod faint o galorïau sydd mewn alcohol.

“Mae gan y cyhoedd hawl i wybod mwy na dim ond nifer y calorïau. Mae’n achosi pryder mai dim ond 18% o’r cyhoedd sy’n ymwybodol o ganllawiau yfed y Prif Swyddogion Meddygol,” ychwanegodd Ian Gilmore.

“Byddai cynnwys yr wybodaeth iechyd hanfodol yma ar y label, ynghyd â rhybuddion iechyd pwysig ac eglur eraill am y peryglon sydd ynghlwm ag yfed a gyrru a beichiogrwydd, yn helpu i addysgu’r cyhoedd am y peryglon sy’n gysylltiedig ag alcohol, a gallai helpu i leihau’r niwed mae alcohol yn ei wneud drwy achosi newid mewn ymddygiad.”

Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn trafod eu cynlluniau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.