Mae rhybuddion y bydd pobol sy’n mynd ar eu gwyliau yn wynebu ciwiau hir yn sgil rheolau Covid.
Oherwydd bod angen gwirio teithwyr yn fwy manwl a’r cynnydd anorfod mewn teithio tramor, fe ddylai pobol “ddisgwyl mwy o darfu nag arfer” wrth deithio meddai Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig, Grant Shapps.
Mae cwmnïau teithiau’n dweud fod twf aruthrol yn y galw am wyliau i wledydd ar y rhestr oren yn dilyn y cyhoeddiad na fydd teithwyr o Loegr sydd wedi cael eu brechu’n llawn, yn gorfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.
Dywedodd Grant Shapps eu bod nhw’n gweithio ar dderbyn tystysgrifau brechu o wledydd eraill ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai dim ond pobol wedi’u brechu â brechlynnau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fyddai’n cael eu heithrio rhag bod mewn cwarantin.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad ar y mater eto, ond maen nhw’n ystyried y sefyllfa.
“Mwy o darfu nag arfer”
Bydd y ciwiau ar eu gwaethaf cyn dychwelyd yn ôl i Loegr, wrth i gwmnïau hedfan wirio ffurflenni teithwyr, i weld a ydyn nhw wedi cael prawf covid cyn gadael ac wedi archebu prawf ar ôl glanio, meddai Grant Shapps wrth raglen BBC Breakfast.
“Felly’r lle i ddisgwyl ciwiau yw mewn meysydd awyr wrth ddod yn ôl. Unwaith fyddwch chi’n ôl yn y Deyrnas Unedig bydd [y broses o wirio] i gyd yn dechrau cael ei awtomeiddio,” meddai.
“Dylai pobol ddisgwyl mwy o darfu nag arfer, ond dw i’n gwybod fod pawb yn gweithio’n galed iawn i gwtogi’r ciwiau.”
“Penderfyniad gwleidyddol”
Yn y cyfamser mae’r Undeb Gwasanaethau Mewnfudo wedi rhybuddio y bydd oedi tra bod giatiau electroneg yn cael eu haddasu mewn meysydd awyr.
Yn ystod adegau prysur, gellir disgwyl ciwio am hyd at ddwyawr, ond gallai hynny gynyddu i chwe awr yn sgil gwiriadau Covid.
“Mae’n benderfyniad gwleidyddol i wirio 100% o’r rhai sy’n cyrraedd yn sgil Covid, a dyna’r broblem yn bennaf,” meddai Lucy Moreton, llefarydd ar ran yr Undeb Gwasanaethau Mewnfudo wrth Radio 4.
“Mae yna dal giwiau sy’n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda staff efallai ddim ar gael, yn enwedig os yw ystadegau hunanynysu’n cynyddu yn y ffordd mae pobol yn awgrymu y gwnawn nhw cyn 19 Awst.”
Mae’r cynlluniau newydd ar gyfer Lloegr yn golygu y bydd y rheolau wrth ddychwelyd o wledydd ar y rhestr oren yr un fath ag ar gyfer gwledydd gwyrdd i bobol sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn Lloegr o 19 Gorffennaf ymlaen.
Mae’n debyg y bydd Gogledd Iwerddon yn dilyn yr un drefn o 26 Gorffennaf, tra bod yr Alban a Chymru’n ystyried y newidiadau.