Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried newid y rheolau ar gyfer pobol sy’n dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol sy’n dychwelyd o’r gwledydd hyn hunanynysu am ddeng niwrnod, p’un a ydyn nhw wedi cael eu brechu ai peidio.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 8) na fydd rhaid i oedolion yn Lloegr sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu wrth ddychwelyd o’r gwledydd ar y rhestr oren.

Bydd cyhoeddiad ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru ar y mater yn cael ei wneud “maes o law”, meddai llefarydd wrth y BBC.

Cafodd y rheolau newydd ar gyfer Lloegr eu cyhoeddi heddiw gan Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig, a byddan nhw’n dod i rym ar 19 Gorffennaf.

Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol i blant ac unigolion sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Grant Shapps, mae’n bosib gwneud y newid oherwydd “llwyddiant” y rhaglenni brechu yn y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd y gallai’r broses “o wneud penderfyniadau a gweithredu fod yn wahanol ar draws gweinyddiaethau’r Deyrnas Unedig”.

“Yn y bôn, mae’n golygu fod y gofynion ar gyfer gwledydd ar y rhestrau gwyrdd ac oren yr un fath i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn,” meddai.

Ystyried y cynigion

Mae polisïau ar gyfer teithio dramor wedi bod yn debyg ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, ond mae Llywodraeth Cymru’n parhau i annog pobol i fynd ar wyliau yng Nghymru eleni yn hytrach na mynd dros y môr.

Does dim modd defnyddio prawf negyddol fel rheswm dros stopio hunanynysu cyn i’r deng niwrnod ddod i ben yng Nghymru chwaith.

“Rydym yn ystyried y cynigion hyn ac mae’r holl gyfyngiadau yn parhau i gael eu hadolygu’n gyson,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd penderfyniadau ynghylch cwarantîn i bobol sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd rhestr oren yn cael eu gwneud yng Nghymru a byddwn yn gwneud cyhoeddiad maes o law.”