Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid ar gyfer hosbisau plant.

Gofynnodd i’r gweinidog Iechyd, Eluned Morgan amlinellu faint o’r “£8.4m a fuddsoddir yn y sector gofal diwedd oes bob blwyddyn yng Nghymru sy’n mynd tuag at wasanaethau gofal lliniarol pediatrig?”.

Ychwanegodd ei bod yn bryd sicrhau nad yw gofal lliniarol pediatrig mor ddibynnol ar gynhyrchu ei incwm ei hun.

Ar hyn o bryd, mae yna ddwy hosbis i blant yng Nghymru – Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith – sy’n derbyn llai na 10% o’u cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru.

“Mae hon yn gyfran sylweddol is nag y mae hosbisau plant yn Lloegr a’r Alban yn ei chael gan eu priod Lywodraethau,” medd Peredur Owen Griffiths.

‘Llai o fuddsoddiad yng Nghymru o gymharu â gweddill rhannau eraill o’r DU’

Mae hosbisau plant yn Lloegr yn cael 21% o’u cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae hosbisau plant yng Ngogledd Iwerddon yn cael 25% a hosbisau plant yn yr Alban yn cael 50% o’u cyllid gan eu llywodraethau hwy.

 

Gofynnodd hefyd i’r Gweinidog a fyddai’n bosib iddi “gyfarfod â Thŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried yn yr adolygiad ariannu sydd ar y gweill ar gyfer hosbisau”.

‘Lle i wella’

Wrth ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan fod angen i’r Llywodraeth “wneud yn well” ar ofal lliniarol pediatrig.

“Fe wnaethon ni roi £12.3m yn ychwanegol i hosbisau yn ystod y pandemig, ac o hynny, roedd yna £2.3m wedi ei glustnodi ar gyfer hosbisau plant,” meddai wedyn.

“Yn ein maniffesto fe wnaethon ni addo ein bo ni fel llywodraeth am adolygu’r ffordd ry’n ni’n ariannu ein gofal lliniraol. Eisoes ry ni ’di dechrau ar y gwaith hwnnw’

“Fe fyddwn yn cyhoeddi adolygiad cyn hir ac yn rhannu hynny gyda rhanddeiliaid ymhen tri i bedwar mis.”

Mae disgwyl i adolygiad o’r trefniadau presennol gael ei gyhoeddi yn yr hydref.