Byddai cais llwyddiannus i roi statws Safle Treftadaeth y Byd i’r ardaloedd chwarelyddol yn help i ddenu “pobol sydd wirioneddol efo diddordeb yn ein hanes, yn ein hiaith ni, yn ein diwylliant ni,” yn ôl un sy’n gweithio i fenter gymunedol yn Nyffryn Ogwen.

Yn ôl Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen ym Methesda, byddai’r cynllun yn gyfle i ddenu ymwelwyr sydd â diddordeb gwirioneddol yn y Gymraeg, ac yn niwylliant a hanes yr ardal.

Mae Partneriaeth Ogwen yn un o bartneriaid Dolan, sef rhwydwaith sy’n cynnwys Cwmni Bro Ffestiniog a’r Orsaf ym Mhenygroes hefyd, a’u nod yw arallgyfeirio buddiannau’r economi sylfaenol i wasanaethu eu cymunedau.

Fel rhan o hynny, mae twristiaeth gymunedol yn elfen amlwg, ac mae Meleri Davies yn gobeithio y byddai’r cynllun yn dod â swyddi o safon gwell i ddiwydiant twristiaeth yr ardal.

Bydd Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd yn argymell fod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn cymeradwyo’r cais, a bydd y penderfyniad terfynol yn digwydd ddiwedd fis Gorffennaf.

Mae’r cais yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Cwmystradllyn a Chwm Pennant, Ffestiniog a Phorthmadog, Abergynolwyn a Thywyn.

“Twristiaeth wahanol, gobeithio”

“Gobeithio bydd o’n codi ymwybyddiaeth pobol leol, ac ymwelwyr, am gyfoeth diwylliannol yr ardal, ein hanes ac ein treftadaeth ni,” meddai Meleri Davies wrth golwg360 am y cais.

“O ran hynny, mae’r cais yn sicr yn beth da.

“Dw i’n gobeithio bydd y cais yn help i ddenu math gwahanol o ymwelydd i’r ardal.

“Mwy o dwristiaid diwylliannol, pobol sydd wirioneddol efo diddordeb yn ein hanes, yn ein hiaith ni, yn ein diwylliant ni.

“Felly mae o’n dwristiaeth wahanol, gobeithio.”

Mae rhai wedi codi pryderon ynghylch yr effaith y byddai’r statws yn ei chael ar or-dwrisitaeth, ac yna’r Gymraeg yn ei thro, ond dydi Meleri Davies ddim yn credu mai’r cais yma fyddai’n “gyrru’r math yna o effaith”.

“Dw i’n amlwg yn poeni am or-dwristiaeth, dw i’n poeni am effaith hynny ar gymunedau, yn enwedig o ran ail gartrefi,” meddai.

“Ond dw i ddim yn meddwl mai’r cais Safle Treftadaeth y Byd fysa’n gyrru’r math yna o effaith negyddol.”

Twristiaeth gymunedol

“I mi, dros y blynyddoedd, mae twristiaeth wedi cael ei hyrwyddo fel un o’r prif gyflogwyr yn yr ardaloedd yma,” meddai wedyn.

“Ac mae hynny wastad wedi bod ar sail cwmnïau mawr yn dod mewn, ac yn rhoi cytundebau tymhorol, cytundeb zero-hours i’w gweithwyr.

“Be fysan ni’n licio’i weld yw bod twristiaeth yn sector sy’n cael ei gymunedoli, hynny yw o ran perchnogaeth, fod yna fwy o endidau twristiaeth sydd yn nwylo, neu dan berchnogaeth mentrau cymdeithasol.

“So mae gen ti fodel Antur Stiniog yn Blaenau, fysan ni’n licio gweld mwy o hynny.

“Mwy o berchnogaeth, cyfleoedd gwaith gwell, ac ein bod ni’n cadw mwy o’r elw o’r sector dwristiaeth yna o fewn ein cymunedau ni.

“Gobeithio bydd y cynllun yn dod â rhywfaint mwy o swyddi twristiaeth o safon gwell, os lici di.

“A gobeithio bydd o hefyd, yn fwy na dim byd, yn codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth leol, ein hanes ni, ac ein hiaith a’n diwylliant ni… yr holl agweddau diwylliannol hynny.”

Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd yn “hwb i falchder lleol” ardaloedd ôl-chwarelyddol Gwynedd

“Dwi’n falch iawn o glywed y newyddion y bydd Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd yn argymell bod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn cymeradwyo’r cais”