Mae’r enwebiad i dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd yn “hwb i falchder lleol” ardaloedd ôl-chwarelyddol Gwynedd, yn ôl gwleidyddion Plaid Cymru yn Arfon.
Cyrhaeddodd y cais y cam olaf yr wythnos ddiwethaf a phe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai ardal ôl-chwarelyddol Arfon yn cael ei chynnwys yn un o’r pum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd yng Nghymru.
Bydd Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd yn argymell bod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn cymeradwyo’r cais, a byddan nhw’n gwneud penderfyniad yn eu cyfarfod ddiwedd y mis.
Mae’r cais yn cynnwys cymunedau Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Cwmystradllyn a Chwm Pennant, Ffestiniog a Phorthmadog, Abergynolwyn a Thywyn.
Byddai cymeradwyo’r cais yn golygu bod yr ardaloedd hyn yn ymuno â Thirwedd Diwydiannol Blaenafon, Traphont Dŵr Pontcysyllte yn Llangollen, yn ogystal â Chestyll Caernarfon, Biwmares, Harlech a Chonwy.
‘Adfywio’r ardaloedd’
“Dwi’n falch iawn o glywed y newyddion y bydd Icomos (Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd) yn argymell bod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn cymeradwyo’r cais,” meddai Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, a llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg.
“Fel nifer o’m hetholwyr, mae gen i gysylltiad uniongyrchol â’n gorffennol diwydiannol gan fod fy hen daid yn chwarelwr yn Chwarel y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle.
“Rwy’n gwybod yn iawn cymaint o ergyd i ardal Arfon oedd colli’r diwydiant chwarelyddol.
“Mae gwaddol economaidd yr oes honno yn parhau i daflu cysgod dros yr ardal.
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad diweddar hwn felly, ac rwy’n gobeithio y byddai dod yn Safle Treftadaeth y Byd yn adfywio’r ardaloedd ôl-chwarelyddol tra’n amddiffyn ein treftadaeth leol gyfoethog.”
“Cyfraniad aruthrol i’r byd”
Mae Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn senedd San Steffan, yn dweud bod y cyhoeddiad yn “hwb i falchder lleol.”
“Gwn fod y cyhoeddiad hwn yn dod wedi blynyddoedd o waith caled,” meddai.
“Mae’n ein hatgoffa o orffennol cyfoethog Arfon, a’i gyfraniad aruthrol i’r byd.
“Ar un adeg roedd chwareli llechi Arfon yn ganolbwynt diwydiannol i’r byd.
“Mae’n wych gweld y cyfraniad hwnnw’n cael ei gydnabod.”
Pryderon am y Gymraeg
Er hynny, mae’r cais wedi cael ei feirniadu gan rai yn sgil pryderon am or-dwristiaeth, a’r effaith ar y Gymraeg, oni bai bod amodau i warchod yr iaith.
Yn ôl Cylch yr Iaith, “siarad gwag” yw’r ymgais i gysylltu’r cais â “dathlu cymunedau, iaith a diwylliant” a “chreu balchder yn yr iaith Gymraeg”.
“Ni ellir ’dathlu’ pethau a’u tanseilio’r un pryd,” meddai Howard Huws, Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth Cylch yr Iaith.