Mae ymgyrchwyr Cylch yr Iaith o’r farn na ddylid cymeradwyo cais Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd y Llechi, oni bai bod amodau llym wedi’u gosod er mwyn gwarchod y Gymraeg.
Mae Cylch yr Iaith o’r farn fod cymunedau’r Gogledd-orllewin eisoes yn dioddef effeithiau niweidiol twristiaeth ac y byddai hynny’n cael ei ddwysáu, os caiff y cais ei gymeradwyo.
Maent yn galw am sicrwydd y bydd modd gosod amodau llym rhag i’r cynnydd mewn ymwelwyr danseilio cynaliadwyedd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
“Gwaethygu gor-dwrisitaeth”
Mewn datganiad, dywedodd Howard Huws, Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth Cylch yr Iaith, eu bod wedi ysgrifennu at ICOMOS, sef corff sy’n cynghori ynglŷn â chadwraeth henebion a safleoedd, i awgrymu na ddylai UNESCO gymeradwyo’r cais.
“Rydym o blaid diogelu gweddillion hanesyddol diwydiant llechi Gwynedd,” meddai Howard Huws ar ran Cylch yr Iaith, “maent yn rhan annatod o gynhysgaeth cymunedau Cymraeg.
“Fodd bynnag, mae tystiolaeth wrthrychol, academaidd, yn awgrymu bod presenoldeb Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn gwaethygu gor-dwristiaeth, a bod Cymru, a rhanbarth Gwynedd yn neilltuol, yn dioddef gan effeithiau gor-dwristiaeth eisoes.
“Prawf o hynny yw bod ardaloedd lle mae dylanwad twristiaeth yn gryf yn ardaloedd lle mae’r gymuned Gymraeg yn peidio â bod, ac yn colli eu Cymreictod.”
“Nid ydym wedi derbyn sicrwydd”
Mae’r mudiad o’r farn mai bwriad Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru yw denu fwy o dwristiaeth i’r ardaloedd.
“Er gwaethaf yr holl dystiolaeth, nid ydynt erioed wedi cydnabod bod y fath beth â gor-dwristiaeth, na bod Gwynedd yn dioddef gan or-dwristiaeth, na bod cysylltiad rhwng gor-dwristiaeth ac erydiad cymunedol a diwylliannol,” meddai Howard Huws.
“Nid ydym wedi derbyn sicrwydd y bydd y cynghorau cymuned a chyrff cyfrifol eraill yn y cymunedau yn rhanddeiliaid ystyrlon yn rheolaeth y datblygiad pe bai’n cael ei gymeradwyo.
“Dylai’r cymunedau eu hunain fod â llais uniongyrchol ym mhob agwedd ar y cynllun.”
“Siarad gwag”
Ac mae Cylch yr Iaith wedi dweud mai “siarad gwag” yw’r ymgais i gysylltu’r cais â “dathlu cymunedau, iaith a diwylliant” a “chreu balchder yn yr iaith Gymraeg”.
“Ni ellir ’dathlu’ pethau a’u tanseilio yr un pryd,” meddai Howard Huws.
Ychwanegodd bod ymrwymiad yn y cais Safle Treftadaeth y Byd i fonitro unrhyw effeithiau ar y Gymraeg yn “gamarweiniol”, a hynny gan fod “yr effeithiau hynny i’w gweld eisoes”.
“Onid yw hynny’n ddigon o rybudd?” meddai. “Onid oes dim diben i “fonitro effeithiau” wedyn, bydd y difrod wedi’i wneud, ac ni ellir ei ddadwneud.
“Bydd Cylch yr Iaith yn parhau i ymgyrchu yn erbyn y cais,” meddai, “ac yn argymell i UNESCO na ddylid ei ganiatáu hyd nes y gall Llywodraeth Llundain, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Gwynedd amlinellu’r camau pendant a weithredir ganddynt i rwystro’r cynnydd o or-dwristiaeth sydd yn ymhlyg yn y dynodiad.”