Mae rhai o drigolion pentref Bow Street, ger Aberystwyth, wedi bod yn trafod eu cyffro – ac eraill eu gwrthwynebiad – i’r orsaf drenau newydd gafodd ei agor ddoe (Chwefror 14), mwy nag hanner canrif ar ôl i’r hen orsaf gau.

Mae cefnogwyr y cynlluniau’n dweud bod disgwyl i’r orsaf, gwerth £8 miliwn, greu dros 30,000 o deithiau newydd bob blwyddyn, lleihau tagfeydd a phroblemau parcio yn Aberystwyth, a chreu cyfleoedd swyddi newydd.

Dyma’r orsaf gyntaf i gael ei hagor yng Nghymru ers Pye Corner yn 2014, a’r cyntaf i Drafnidiaeth Cymru ei hagor ers dod yn gyfrifol am fasnachfraint rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn 2018.

Er bod rhai wedi croesawu’r datblygiad fel cyfle cyffroes i wella cysylltedd a chynnig opsiynau trafnidiaeth fwy cynaliadwy, mae eraill o’r farn bod ffyrdd gwell o fuddsoddi’r arian, tra hefyd yn gwarchod gwelededd yr ardal.

“Rwy’n croesawu hyn yn fawr iawn”

Mae Marian Beech Hughes, sy’n byw ym mhentref Bow Street ers bron i bedwar deg blynedd, wedi croesawu’r datblygiad, gan hefyd drafod ei rhyddhad fod y gwaith adeiladu wedi dod i ben.

“Rwy’n croesawu hyn yn fawr iawn,” meddai, “mae unrhyw beth sydd yn cynnig gwasanaeth pellach i bobl yn rhywbeth i’w groesawu.

Teimlai bod yr orsaf newydd yn cynnig opsiynau trafnidiaeth fwy cynaliadwy i’r cyhoedd ac fod y ffordd gerdded gyfagos sy’n rhan o’r datblygiad wedi bod yn gymorth mawr iddi dros y misoedd diwethaf.

“Mae cael y llwybr i Ogerddan wedi bod yn help mawr i ni yn ystod y cyfnod clo,” meddai, “cael cerdded i lawr i’r goedwig ac mae pobl yn gallu beicio a gadael eu beiciau yna.

“Mae’r holl ddatblygiad yn arloesol, mae o’n rhywbeth gwyrdd er mwyn cael y ceir oddi ar y ffordd – rydw i’n meddwl bydd o’n help mawr. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael mynd lawr yna am sbec wythnos yma!”

“Hynod fanteisiol i’r ardal gyfan”

“Dwi wrth fy modd,” meddai Siôn Meredith sydd hefyd yn byw yn lleol, “a dwi’n meddwl bydd o’n hynod fanteisiol i’r ardal gyfan.”

Mae’n rhagweld y bydd yr orsaf yn arbed oddeutu ugain munud oddi ar ei siwrne arferol a dywedodd bod gallu dilyn y lon feics o’i gartref at yr orsaf yn fantais fawr.

Ei unig wrthwynebiad, meddai, yw nad oes safle pwrpasol i gadw beics dan do yn yr orsaf.

“Dydi hynny ddim yn teimlo cweit mor ddiogel,” meddai, “a dydw i ddim yn siŵr os fyddai’n awyddus i adael beic mewn lle mor amlwg am gyfnod hir.”

Ond roedd o’r farn fod yr orsaf yn gam yn y cyfeiriad cywir i adfer poblogrwydd trenau fel dewis amgen i deithio yn yr ardal unwaith yn rhagor.

“Mae bysys yn rhedeg lan a lawr”

Un person sy’n agored iawn ynglŷn â’i wrthwynebiad, yw’r cynghorydd lleol, Vernon Jones, sydd wedi byw yn yr ardal ers bron i 80 o flynyddoedd.

“Rydw i’n gresynu bod y wlad yn y cyflwr mae hi – ar ei gliniau yn ariannol – bod miliynau’n cael eu taflu i mewn fan hyn ar brosiect a all fod yn wastraff yn y diwedd,” meddai.

“Mae bysys yn rhedeg lan a lawr drwy’r pentref bob hanner awr – bws Machynlleth a bws Ynyslas ac maen nhw’n gyfleus iawn.

“Pam fydde chi’n jympio ar y trên i Aberystwyth yn cario packages, nwyddau drwy’r pentref – pan fo gyda chi fws reit ar ben y drws?

Dywedodd hefyd fod yr orsaf yn “amharu” ar welediad y pentref a bod arwyddion oedd yn arddangos enwau lleoliadau gwreiddiol wedi’u disodli.

Ychwanegodd bydd y mynediad newydd hefyd yn creu trafferthion i loriau allu dod i mewn ag allan o’r pentref.

 

Gorsaf newydd yn ‘gam mawr ymlaen i Geredigion’

Disgwylir y bydd yr orsaf newydd gwerth £8 miliwn yn creu dros 30,000 o deithiau newydd bob blwyddyn

Ymateb cymysg i orsaf newydd Bow Street

Gohebydd Golwg360

Croeso a gwrthwynebiad i’r cynllun gwerth £8 miliwn