Mae ardaloedd y diwydiant llechi yng Ngwynedd wedi cael eu henwebu ar gyfer statws ‘Safle Treftadaeth y Byd’.
Mae tri safle yng Nghymru eisoes wedi derbyn y statws – Traphont Dŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a Chestyll a Muriau Trefi Brenin Edward yng Ngwynedd.
A ledled y Deyrnas Unedig mae 32 safle wedi derbyn y teitl yma gan UNESCO (Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig).
Mae pobol wedi bod yn chwarela yng Ngwynedd ers dros 1,800 o flynyddoedd, ac yn ystod yr 18fed ganrif roedd yr ardal hon yn brif gynhyrchydd llechi’r byd.
“Cydnabod pwysigrwydd”
“Mae’r enwebiad yma yn ffordd ardderchog o gydnabod pwysigrwydd treftadaeth chwarela Cymru,” meddai Gweinidog Treftadaeth y Deyrnas Unedig, Helen Whately.
“Ac mi fydd o fudd nid yn unig i bobol Gwynedd ond i gyfanrwydd gogledd Cymru, trwy ddenu ymwelwyr, cynyddu buddsoddiad, a thrwy greu swyddi.”
Bydd y cais yn cael ei ystyried tros y flwyddyn sydd i ddod, ac mae disgwyl penderfyniad ynghylch y statws flwyddyn nesaf.