Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (CIC) yn rhybuddio y gallai methu â gwrando ar gleifion mewn byd cynyddol ddigidol arwain at rwystrau at ofal.
Yn dilyn canfyddiadau arolwg cenedlaethol o gleifion, mae’r Bwrdd yn annog gwasanaethau iechyd a gofal i fod yn wyliadwrus er mwyn osgoi creu rhwystrau drwy ddefnyddio technoleg.
Mae’r pandemig wedi newid y ffordd y mae pobol yn cael mynediad at ofal iechyd, gyda galwadau ffôn ac ymgynghoriadau fideo yn cael eu defnyddio yn hytrach nag apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Mae rhai yn disgwyl y bydd llawer o’r arferion hyn yn aros gyda ni am gyfnod, os nad am byth.
Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r gwasanaethau iechyd ymgysylltu â phobol a chymunedau wrth feddwl am ffyrdd newydd i bobol gael mynediad at ofal iechyd drwy ddefnyddio technoleg, meddai CIC.
Er bod yna fanteision i’r system, mae yna beryglon i’r math yma o system hefyd, meddai.
Adroddiad
Mewn adroddiad yn manylu ar yr adborth a gafodd ei gasglu gan gleifion ar draws y wlad, mae’r Bwrdd yn nodi bod profiadau pobol o gael gofal gan ddefnyddio technoleg ddigidol yn ystod y pandemig yn amrywio.
Dywed yr adroddiad fod angen i ffyrdd newydd o ddarparu gofal iechyd gynnwys pawb, yn hytrach na gadael pobol ar ôl.
Er bod defnyddio technoleg, er enghraifft ar gyfer ymgynghoriadau meddygol teulu dros y ffôn, apwyntiadau dros fideo a bwcio apwyntiadau ar-lein wedi bod yn gymorth iddyn nhw, mae rhai pobol, sy’n cael eu hystyried yn aml fel y rhai mwyaf agored i niwed, wedi datgelu bod arferion o’r fath yn rhwystr arall.
Mae’r Bwrdd yn cefnogi’r defnydd o dechnoleg i ddarparu ffyrdd newydd a mwy o gyfleusterau i gleifion gael mynediad at ofal, ond yn mynnu bod rhaid i’r defnydd fod yn briodol ac yn cwrdd ag anghenion y rhai sy’n dymuno parhau i ddefnyddio ffyrdd mwy traddodiadol.
Yn ogystal, maen nhw’n nodi na ddylai unrhyw glaf fethu â chael mynediad at ofal iechyd oherwydd diffyg cysylltiad band eang, neu gefnogaeth i fagu hyder wrth ddefnyddio technoleg.
“Gadael ar ôl”
“Mae’r pandemig wedi newid pob un ohonom ac wedi newid y byd rydyn ni’n byw ynddo. Dros amser, gall rhai pethau fynd yn ôl i’r ffyrdd roeddem wedi arfer â nhw ac yn gyffyrddus â nhw, ond ni fydd popeth,” meddai John Pearce, Cadeirydd Bwrdd y Cynghorau Iechyd yng Nghymru.
“Rydym yn gwybod nad oedd y Gwasanaeth Iechyd yn gyson yn defnyddio ystod eang o wahanol systemau cyfathrebu cyn y pandemig. Mae rhoi’r rhain yn eu lle, yn gyflym iawn, yn ystod pandemig, wedi bod yn her a bu rhai materion sylweddol i’w goresgyn.
“Er gwaethaf hyn, mae ffyrdd newydd o weithio wedi cael derbyniad da mewn sawl achos.
“Er bod angen gwneud gwaith pellach i wneud hyn yn effeithiol i fwy o bobol, mae angen adeiladu’r parhad ac unrhyw ehangu pellach yn y systemau hyn ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud am eu profiadau hyd yn hyn.
“Mae ein harolwg yn dangos bod rhai pobol eisoes yn poeni y gallent gael eu gadael ar ôl, yn methu â chael y gofal sydd ei angen arnynt os mai technoleg yw’r unig ffordd o wneud pethau,” ychwanegodd.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru a darparwyr gofal dderbyn y bydd rhai eisiau parhau i gael apwyntiadau y maen nhw’n eu hystyried sy’n diwallu eu hanghenion orau yn y ffyrdd maen nhw wedi arfer â nhw ac nad ydyn nhw eisiau teimlo eu bod nhw’n cael eu gorfodi i newid.
“Mae’n hanfodol bod pobol yn dawel eu meddwl y byddan nhw’n dal i allu eistedd i lawr gyda pherson go iawn mewn ystafell yn hytrach na defnyddio ffôn, sgrin neu gamera pan fydd angen iddyn nhw wneud hynny.”
“Ddim yn addas i bawb”
“Ers dechrau’r pandemig rydym wedi bod yn buddsoddi mewn gofal iechyd digidol ac yn cyflymu’r broses o’i gyflwyno,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae llawer o fanteision i gynnal apwyntiadau rhithwir drwy fideo neu dros y ffôn, a hynny mewn dull diogel.
“Mae’r manteision yn cynnwys mwy o ddewis yn y ffordd y gall pobl gael gofal iechyd, lleihau’r straen o orfod teithio i apwyntiadau a lleihau’r risg o ddal y coronafeirws.
“Ond dydyn nhw ddim yn addas i bawb. Mae’n bwysig bod pobl yn parhau i gael dewis rhwng apwyntiad wyneb yn wyneb neu apwyntiad rhithwir wrth gysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd.”