Mae 50% o drigolion ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo nad yw’r rhyngrwyd mae ganddyn nhw fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy.

Dyna ganfyddiadau arolwg gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru.

Dywed 66% fod band eang gwael wedi effeithio arnyn nhw neu eu haelwydydd, o gymharu â phobol mewn ardaloedd trefol lle dywedodd 18% fod ganddyn nhw fynediad i fand eang safonol, ac mae gan 67% fand eang cyflym iawn.

Dim ond 36% sydd â band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig.

Bydd NFU Cymru yn cynnal digwyddiad – ‘Cysylltedd digidol: Mynd i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad’ ar ddydd Llun, 19 Gorffennaf trwy Zoom.

Bydd yn cael ei ffrydio trwy wefan digwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru.

Ymhlith y siaradwyr fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru, Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoliadol Ofcom Cymru, Nick Speed, Cyfarwyddwr Cymru BT Group, Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Kim Mears, Rheolwr Gyfarwyddwr Datblygu Seilwaith Strategol Openreach.

‘Testun pryder’

“Mae canfyddiadau’r arolwg felly’n destun pryder gwirioneddol,” meddai Katie Davies.

“Er gwaethaf llawer o addewidion gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru dros y blynyddoedd, mae wedi dod yn amlwg nad aed i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad.

“Bydd ein gweminar yn rhoi cyfle inni siarad â chynrychiolwyr y diwydiant am y canlyniadau a’r hyn maen nhw’n ei wneud i wella’r sefyllfa i’n cymunedau gwledig ac amaethyddol yn awr ac yn y dyfodol agos.”