Mae Pwyllgor Safonau’r Tŷ Cyffredin wedi gwrthod cyhuddiadau yn erbyn Boris Johnson ei fod e wedi torri cod ymddygiad wrth fynd ar wyliau i’r Caribî.

Roedd Kathryn Stone, Comisiynydd Safonau’r Tŷ Cyffredin, wedi dweud bod Prif Weinidog Prydain wedi torri rheolau ar ôl methu â “chyflawni’n gydwybodol” y gofynion ar gyfer cofrestru’r llety yno.

Derbyniodd gyfraniad o £15,000 ar gyfer y gwyliau ar ynys breifat Mustique.

Dywedodd Aelodau Seneddol y Pwyllgor Safonau mewn adroddiad eu bod yn anghytuno â chanfyddiadau’r Comisiynydd yn dilyn “tystiolaeth ychwanegol”, a chafwyd Boris Johnson yn ddieuog o’r cyhuddiadau.

Yn ôl y pwyllgor, roedd y cyfraniad ariannol wedi’i dderbyn gan David Ross, sylfaenydd Carphone Warehouse, a dyna gafodd ei gofrestru gan Boris Johnson.

Er hynny, fe wnaeth y pwyllgor ei feirniadu, gan ddweud y gallai esboniad llawn o’r sefyllfa fod wedi cael ei roi peth amser yn ôl, a’i bod hi’n “anffodus” bod rhaid iddyn nhw orfod cynnal ymchwiliad.

Gallai’r mater fod wedi “dod i ben fisoedd yn ôl pe bai ymdrechion mwy egnïol i ddod â’r ansicrwydd i ben”, meddai’r pwyllgor.

Wnaeth Kathryn Stone ategu hynny wrth sôn am ei hymchwiliad hi, gan ddweud ei bod hi’n “hynod o anodd dod o hyd i’r ffeithiau”, a’i bod hi’n methu â chanfod “unrhyw ddogfen ddibynadwy” a oedd yn cofnodi taliadau’r gwyliau rhwng Rhagfyr 2019 a Ionawr 2020.

Yr ymchwiliad gwreiddiol

Dywedodd y Comisiynydd fod rhaid i Boris Johnson, fel aelod seneddol, gyflawni’n “gydwybodol” y gofynion ar gyfer cofrestru gweithredoedd ariannol aelodau.

Hefyd, roedd hi’n ei gweld hi’n “rhyfeddol” nad oedd e wedi egluro pam ei fod wedi aros mewn llety gwahanol i fila David Ross.

“Oherwydd na wnaeth ymholiadau digonol i sefydlu’r ffeithiau llawn am y trefniadau cyllido ar gyfer ei lety am ddim, naill ai cyn ei wyliau, fel y dylai fod wedi gwneud, neu yn 2020, rwy’n canfod nad yw Mr Johnson wedi cyflawni gofynion y Tŷ’n gydwybodol ar gyfer cofrestru,” meddai Kathryn Stone.

“Rwyf hefyd yn gweld nad yw Mr Johnson wedi dangos atebolrwydd sy’n ofynnol o’r rheini mewn bywyd cyhoeddus,” ychwanegodd.

Ymateb y Prif Weinidog a’r pwyllgor

Gwrthododd Boris Johnson ganfyddiadau’r Comisiynydd gan gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Safonau’r Tŷ Cyffredin, sy’n cael ei gadeirio gan Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

Wedi derbyn gwybodaeth newydd, dywedodd y pwyllgor eu bod yn anghytuno â chanfyddiadau Kathryn Stone, ond yn rhoi chwarae teg i’w hymchwiliad a oedd wedi seilio ar “dystiolaeth a oedd ar gael ar y pryd.”

Cafodd y pwyllgor hwnnw gadarnhad bod y gwyliau wedi ei dalu gan y cwmni sy’n rheoli’r ynys breifat, y Mustique Company.

Ychwanegodd y pwyllgor bod trefniadau’r taliadau wedi ei baratoi’n ddisymwth ac “heb eu hegluro wrth Mr Johnson ar y cychwyn cyntaf.”

Roedd aelodau’r pwyllgor yn beirniadu’r oedi cyn i’r Prif Weinidog ymateb i’r cyhuddiadau, ac y bydden nhw “wedi disgwyl i’r Prif Weinidog fynd i ymdrech i sicrhau nad oedd ansicrwydd am y trefniadau,” yn enwedig gan ei fod wedi ei gyhuddo ddwywaith o’r blaen gan yr un pwyllgor.