Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn teimlo unrhyw bwysau i lacio cyfyngiadau Covid ymhen pythefnos, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

Daw hyn er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddan nhw’n llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr.

Mae Boris Johnson eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhan fwyaf o gyfyniadau Covid yn dod i ben ar Orffernnaf 19eg. Dywedodd ei fod yn awyddus “symud i ffwrdd o gyfyngiadau cyfreithiol” gan adael i bobl “wneud eu penderfyniadau personol ar sut i reoli’r feirws”.

Golyga hyn na fydd cyfyngu ar niferoedd o bobl sy’n cael cwrdd â’i gilydd a bydd gwisgo mygydau’n opsiynol yn ogystal â dileu rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Mae’r Alban eisoes wedi amlinellu y byddwn yn symud at lefel zero ar Orffennaf 19eg gyda chyfyngiadau cyfreithiol yn codi ar Awst 9fed.

Bydd cyhoeddiad nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfyngiadau Covid yn digwydd ar Orffennaf 16eg yn unol â chyhoeddiadau bob tair wythnos y llywodraeth.

“Dwi’n obeithiol am y dewisiadau fydd ar gael i ni eu gwneud, ond byddwn yn dewis eu gwneud nhw mewn modd sy’n gyfrifol ac nad yw’n cael ei yrru gan alwadau i chwythu’r drysau i ffwrdd a chaniatáu i bopeth ddigwydd ar yr un pryd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething.

‘Ystyried y dyddiadau a’r data’

Wrth ymateb i gwestiwn Gareth Davies, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, dywedodd Vaughan Gething y bydd y llywodraeth yn “cynnig dyddiadau a data pan fydd yr amser yn iawn i wneud hynny ac ni fyddai’n rhaid i’r Aelod aros yn hir iawn i’r cabinet wneud y penderfyniadau hynny”.

Dywedodd Gareth Davies y bydd y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn cael hi’n anodd i gystadlu yn erbyn y diwydiant yn Lloegr wrth ddod â chyfyngiadau i ben.

“Mae twristiaeth a busnesau yn Ninbych, yn enwedig y rheiny yn fy etholaeth i yng Nglyn Clwyd wedi cael hi’n anodd dros ben,” meddai.

“Mae adferiad y sector yn mynd i fod yn hir ac yn araf, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos mai ychydig iawn o fanylion sydd o ran llacio cyfyngiadau dros yr haf, sef cyfnod prysuraf y diwydiant.

“Weinidog, heb lacio cyfyngiadau Covid, mae pobol mewn ardaloedd fel y Rhyl, Prestatyn, Bodelwyddan a Llanelwy yn mynd i’w chael hi’n anodd cystadlu â’r diwydiant yn Lloegr, gan fydd yna fawr ddim o reolau ymbellhau cymdeithasol yno.”

Mae Mark Drakeford wedi cyheoddi y bydd rhai cyfyngiadau’n parhau hyd at yr Hydref ac o bosib y tu hwnt i hynny.