Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r diddanwr, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu, Idris Charles sydd wedi marw’n 74 oed.

Cafodd ei eni ym Modffordd yn 1947, ac roedd yn fab i’r actor Charles Williams a’i wraig Jennie.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn astudio yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth.

Yn y 1960au a’r 1970au, bu’n trefnu nosweithiau adloniant ‘Sêr Cymru’ yn sinema’r Majestic yng Nghaernarfon, cyn dod yn is-gynhyrchydd gyda HTV Cymru yn 1983.

Yno, bu’n cynhyrchu a sgriptio rhaglenni fel Bwrw’r Sul, Cyfle Byw, Traed Dan Bwrdd, Pâr Mewn picl, Bwrlwm Bro, Llwyfan, Gweld Sêr a Sblat, ac fe gyflwynodd e’r gyfres gwis Stumiau a thair cyfres o Bwrlwm Bro.

Bu’n actio yn nifer o raglenni S4C yn yr 1980au, gan gynnwys Pobol y Cwm, A470, Dwy Ynys, Gwely Blodau a Hotel Eddie.

Bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni fel Idris ar y Sul a Cadair Idris ar Radio Cymru, ac yn sylwebu ar bêl-droed, ac yntau’n gefnogwr Casnewydd.

Yn 1996, fe gyd-gynhyrchodd sawl cyfres o’r raglen stand-yp Y Jocars i S4C ac yn ddiweddarach, fe fu’n gynhyrchydd gyda Tinopolis ar raglenni fel Wedi 7 a Heno, yn ogystal â Sam ar y Sgrîn.

Bu’n sgriptiwr comedi yn Saesneg hefyd gyda’r deuawd adnabyddus Cannon and Ball.

Roedd hefyd yn awdur nifer o gyfrolau am ei fywyd a’i yrfa.

Mae’n gadael gwraig, Ceri, a dau fab, Iwan ac Owain.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, fod “Cymru wedi colli cymeriad a oedd yn llawn angerdd am bobo ei wlad ac yn deall beth oedd stori dda allai ddal dychymyg gwylwyr”.

“Roedd Idris Charles yn ddyn ag amrywiaeth o dalentau, ac roedd yn eu dangos ar deledu a radio wrth gyflwyno, actio, cynhyrchu, cyfarwyddo, ffilmio a sylwebu ar y maes chwarae.

“Roedd popeth a gynhyrchodd ar gyfer S4C, gyda thimau cynhyrchu HTV, Tinopolis a chynhyrchwyr annibynnol eraill, yn anelu at ddarparu adloniant poblogaidd o safon uchel.

“Fe fydd yna golled ar ei ôl ymysg gwylwyr, gwrandawyr a phobl yn y diwydiannau creadigol.”

Dywedodd Angharad Mair, fu’n cyflwyno Heno tra ei fod yn gweithio ar y rhaglen, ei fod yn “ddiddanwr gwych, yn ddyn annwyl tu hwnt”, “mor frwdfrydig, hollol angerddol ac adnabod ei gynulleidfa yn well na neb”.

‘Deffro gyda chalon drom’

“Rwy’n siŵr ei fod yn wir i ddweud fod nifer ohonom wedi deffro gyda chalon drom heddiw wrth glywed fod Idris wedi’n gadael ni,” meddai Dafydd Meredydd, Golygydd Cynnwys Radio Cymru.

“Dros y blynyddoedd, roedd ei gyfraniad i Radio Cymru, y tu ôl i’r meic yn ogystal â’r ochr gynhyrchu, yn enfawr.

“Roedd ei egni yn rhyfeddol, ei frwdfrydedd yn heintus, ei gefnogaeth barhaus yn hwb i nifer yn ein diwydiant, a’i agwedd yn addysg wrth iddo roi’r gynulleidfa wrth galon popeth yr oedd yn ei wneud.

“Mae hi’n golled fawr ac mae ei deulu yn flaenllaw yn ein meddyliau.”

Dywedodd Terwyn Davies, fu’n cyd-gyflwyno ag Idris Charles ar Radio Cymru, fod y rheiny’n “ddyddiau hapus”, a’i fod yn “ddarlledwr fydde wastad yn gwneud i mi chwerthin”.

“Un o hogiau gorau Môn” oedd disgrifiad Elin Fflur ohono, a hithau wedi gweithio ar Heno yr un pryd â fe.

Dywedodd y digrifwr Tudur Owen fod Idris Charles “wastad yn gefnogol a byth yn feirniadol”.