Mae disgwyl i Rob Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, ddychwelyd i San Steffan heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 8).
Daw hyn wrth i’w waharddiad chwe wythnos am aflonyddu’n rhywiol ar ddyn ddod i ben.
Ond ni chafwyd deiseb adalw – cam a allai fod wedi arwain at isetholiad – oherwydd bod y gosb wedi’i rhoi gan banel annibynnol yn hytrach na phwyllgor seneddol.
Ac fe gollodd e chwip y Blaid Geidwadol yn sgil y sgandal, felly bydd yn dychwelyd fel Aelod annibynnol.
Serch hynny, mae adroddiadau bod y Blaid Geidwadol wedi ei gynghori i gadw draw o Dŷ’r Cyffredin.
Roedd Rob Roberts wedi bod o dan bwysau i ymddiswyddo, gyda Syr Alistair Graham, cyn-gadeirydd un o bwyllgorau San Steffan, yn dweud bod y sefyllfa’n tanseilio’i “awdurdod a’i hygrededd”.
Ac fe ddywedodd Jacob Rees Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, y byddai’n “anrhydeddus” i Rob Roberts AS gamu o’r neilltu.
Bellach, mae Jacob Rees-Mogg yn ceisio newid y rheolau er mwyn sicrhau y byddai deiseb adalw yn cael ei chyflwyno yn sgil unrhyw waharddiad sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol neu fwlio yn y dyfodol.
Mae Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, hefyd wedi dweud bod Rob Roberts wedi gallu manteisio ar “loophole amlwg, a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid ei gau”.