Mae cyn-gadeirydd un o bwyllgorau San Steffan wedi mynegi ei syndod nad yw Rob Roberts, Aelod Seneddol Delyn, wedi camu o’i swydd yn dilyn honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol.
Daeth panel annibynnol i’r casgliad ei fod yn euog o aflonyddu aelod o staff yn rhywiol, ac fe gafodd e waharddiad o chwe wythnos.
Serch hynny, mae’n mynnu y bydd e’n parhau yn ei swydd yn y tymor hir, ond mae Syr Alistair Graham wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC fod y sefyllfa’n tanseilio’i “awdurdod a’i hygrededd”, a’i fod e’n synnu bod yr Aelod Seneddol Ceidwadol yn teimlo bod ganddo fe ddyfodol yn y byd gwleidyddol.
Mae cryn bwysau arno i gamu o’i swydd – ymhlith y rhai fu’n galw arno i wneud hynny mae dau aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol a Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.
Yn sgil y rheolau sydd yn eu lle ar hyn o bryd, oherwydd fod panel annibynnol wedi cynnal ymchwiliad, does dim modd ceisio’i symud o’i swydd gan ddefnyddio deiseb i alw is-etholiad.
Mae e wedi colli chwip y blaid, ond fe fydd modd iddo fe ddychwelyd i’w swydd ar ôl i’w waharddiad ddod i ben.
“Mae’n wendid nad yw wedi’i alinio â threfniadau disgyblu eraill,” meddai Syr Alistair Graham wrth ymateb i’r rheolau sy’n caniatáu i Rob Roberts ddychwelyd i’w swydd.
“Dw i’n synnu nad yw’r unigolyn dan sylw wedi dod i’r casgliad personol nad oes ganddyn nhw rôl i’w chwarae yn y dyfodol mewn gyrfa wleidyddol neu fel aelod seneddol.
Dywed fod yr honiadau yn ei erbyn yn “ddifrifol iawn a rhaid eu bod nhw’n tanseilio’ch awdurdod a’ch hygrededd fel aelod seneddol”.