Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn dilyn marwolaeth dynes yn Nhrelales ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 6.35 neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 5).

Roedd car Volkswagen Golf lliw arian wedi bod yn teithio i gyfeiriad Cefn Cribwr pan adawodd y ffordd.

Bu farw dynes oedd yn teithio yn y car yn y fan a’r lle.

Mae dau ddyn, 32 a 37 oed, wedi cael eu harestio ar achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ac mae’r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.