Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud na fyddai’n “ymarferol” cau’r ffin rhwng Cymru a Lloegr eto er mwyn atal yr amrywiolion Covid-19 rhag dod i Gymru, am fod cynifer o bobol sy’n byw yn y naill wlad yn gweithio yn y llall.

Daw ei sylwadau wrth iddi siarad â Dewi Llwyd ar ei raglen ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 6).

Cafodd hi ei phenodi i’r swydd newydd ar ôl i Mark Drakeford ennill tymor arall wrth y llyw ac ad-drefnu ei gabinet yn dilyn etholiadau’r Senedd fis diwethaf.

Ei phrif ddyletswydd yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf fydd mynd i’r afael â’r feirws a rhan o hynny yw’r cyfyngiadau symud.

Cafodd symud rhwng Cymru a Lloegr ei atal ar ddechrau’r pandemig, ond mae Eluned Morgan yn dweud na fyddai’n ymarferol gwneud hynny eto wrth i nifer yr achosion Covid-19 yn sgil amrywiolion barhau i gynyddu yn Lloegr, er bod y nifer yn gymharol fach yng Nghymru – sy’n adlewyrchiad o’r feirws ar ddechrau’r pandemig.

“Ry’n ni wedi trio cau’r ffin o’r blaen, ond beth mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, yw bod hawl gan bobol i deithio pan bo hwnna’n ofynnol a’r ffaith yw mae lot fawr o bobol yng Nghymru yn gweithio yn Lloegr, a lot fawr o bobol yn Lloegr yn gweithio yng Nghymru,” meddai.

“Ac felly, byddai’r symudiad yna’n debygol o ddigwydd beth bynnag ac felly, jyst yn ymarferol hefyd, sut fyddech chi’n sicrhau… achos dyw hi ddim yn deg i stopio pobol rhag dod o ardaloedd sydd ddim gyda’r cyfraddau uchel yma?

“Sut fyddech chi’n stopio pobol o Bolton rhag dod ond nid o ardaloedd eraill?

“Felly mae’n gymhleth a’r peth gorau i ni ei wneud yw i sicrhau ein bod ni’n cadw golwg ar beth sy’n digwydd yn ein cymunedau ni a pan ydyn ni’n gweld yr amrywiolyn yma, wedyn byddwn ni’n mynd mewn gyda’r tîm i sicrhau bod pobol yn cael cyfle i gael prawf ac, os bydd angen i ni, gyflymu y dosys o’r frechlyn yn yr ardal yna.

“Ond mae angen i ni fod yn barod i ymateb.”

Clwstwr Llandudno

Mae’n dweud bod y clwstwr newydd o achosion yn Llandudno ac ardaloedd eraill yn y gogledd yn “peri gofid” i Lywodraeth Cymru.

Ond mae’n dweud y byddai’n “anodd stopio y llif rhag dod dros ein ffiniau ni o gyfeiriad Lloegr”, gan bwysleisio bod parhau i frechu pobol yng Nghymru’n rhan bwysig o’r ateb.

“Beth sydd yn bwysig, wrth gwrs, yw ein bod ni’n tanlinellu’r ffaith ein bod ni wedi bod mor llwyddiannus o ran y frechlyn yng Nghymru hyd yn hyn,” meddai.

“Mae gyda ni gymaint o bobol nawr – 85% o’r boblogaeth sydd wedi cael y frechlyn gynta’, 45% wedi cael yr ail ddos – felly ry’n ni’n arwain y byd fan hyn. Felly mae hwnna yn help yn sicr.

“Ond wrth gwrs, ry’n ni yn poeni fod ymlediad y feirws yma gymaint yn uwch o ganlyniad i’r amrywiolyn newydd yma, Delta, ac felly hwnna sy’n pryderi ni.

“Ry’n ni’n cadw golwg ar bethau a dyna pam ry’n ni wedi dod mewn â’r ymlacio yma mewn dau phase, felly ry’n ni wedi caniatáu i dri o aelwydydd i ddod gyda’i gilydd, er enghraifft, 30 o bobol i ddod at ei gilydd tu fas, hyd yn oed mewn gerddi, ond ry’n ni’n aros am ychydig wythnosau i gael mwy o ddata er mwyn bod yn glir nad yw’r amrywiolyn newydd yma yn wirioneddol ymledu trwy ein cymdeithas ni a gweld sut mae hwnna’n effeithio ar faint o bobol sydd yn mynd i’n hysbytai ni.”

Llacio’r cyfyngiadau

Mae amheuaeth erbyn hyn na fydd modd llacio’r cyfyngiadau ar Fehefin 21, fel roedd Llywodraeth Prydain yn dymuno ei wneud.

Ond mae Eluned Morgan yn dweud bod “rhaid cael rheswm da iawn dros gadw’r cyfyngiadau hefyd”.

“Dwi’n meddwl fod rhaid i chi gofio pa mor isel yw’r cyfraddau yn ein cymunedau ni ar hyn o bryd. Y ffaith yw, dim ond wyth mewn 100,000 sydd yn diodde’ ar hyn o bryd, dim ond tua 71 o achosion, dyn ni ddim wedi cael un marwolaeth yn ystod yr wythnos diwetha’, felly mae’n rhaid i chi gael rheswm da iawn dros gadw’r cyfyngiadau hefyd,” meddai.

“Ac felly, rhaid i ni gael y balans yma’n gywir a dyna pam ry’n ni eisiau rhoi ychydig mwy o ryddid i bobol wrth jyst sicrhau bo ni’n tanlinellu’r ffaith bod rhaid i bobol ddal i fod yn wyliadwrus a chadw at y rheolau sydd dal mewn grym, yn arbennig cadw pellter oddi wrth ei gilydd.”

Serch hynny, mae’n cydnabod fod y llywodraeth yn poeni am drydedd ton o’r feirws yn y misoedd i ddod.

“Wrth gwrs bo ni’n ofni hynny, mae’n debygol gewn ni trydedd ton,” meddai.

“Y cwestiwn yw pa mor fawr fydd y don yna.

“Mae’n rhaid i ni gofio, dw i’n meddwl bod rhaid i ni ddysgu sut i fyw gyda’r feirws yma. Y cwestiwn wedyn yw sut ydyn ni’n cadw yr NHS yn ddiogel, sut ydyn ni’n sicrhau fod pobol ddim yn mynd i’n hysbytai ni mewn niferoedd uchel.

“Ry’n ni’n dal yn edrych ac yn dysgu am Delta, yr amrywiolyn Delta yma, felly mae hi’n dal i fod yn ddyddiau cynnar ac mae’r pythefnos nesa’ yn rhoi cyfle i ni i roi’r frechlyn i 300,000 o bobol ychwanegol a bydd hwnna wedyn yn rhoi’r diogelwch iddyn nhw hefyd.

“Dwi’n meddwl, yn sicr, byddwn ni yn ceisio gweld os bydd e’n bosibl i ni gadw pellter.

“Dw i’n meddwl bod hwnna yn helpu i atal y feirws rhag ymledu.

“Dwi’n meddwl fyddwn ni’n tanlinellu pwysigrwydd y ffaith fod rhaid bod yn fwy gwyliadwrus wrth bo chi tu fewn a tu fa’s ac mae hwnna’n reswm arall pam ydyn ni’n awyddus i bobol gael y rhyddid yma yn ystod yr haf tra bod hi’n haws i bobol i gymysgu tu fa’s.

“Ond byddwn ni jyst yn cadw llygad ar bethau ac yn gorfod ymateb i’r hyn sy’n digwydd.

“Ac wrth gwrs, pwy a ŵyr, efallai daw amrywiolyn newydd i’r golwg o rywle arall fydd efallai ddim yn ymateb i’r frechlyn, felly dyn ni ddim allan o’r sefyllfa yma o bell ffordd eto.”

Gwyliau yng Nghymru eleni?

Yn sgil y cyfyngiadau symud a system oleuadau traffig y llywodraeth, mae Eluned Morgan yn pwysleisio mai gwyliau yma yng Nghymru fyddai’n fwyaf synhwyrol eleni.

“Ry’n ni wedi bod yn glir, yn ddelfrydol, na ddylai pobol fod yn teithio eleni,” meddai.

“Nid eleni yw’r flwyddyn i deithio.

“Mae Cymru yn wlad brydferth dros ben ac rydyn ni’n annog pobol i gael eu gwyliau nhw yma yn y wlad yma.

“Achos bo ni wedi dweud hwnna yn glir, roedd pobol yn gwybod y risg o ran mynd ar eu gwyliau i Bortiwgal, ac roedd gofidion gyda ni hyd yn oed cyn i Bortiwgal fod ar y rhestr werdd.

“Ond wrth gwrs, nawr mae’r cyfyngiadau wedi dod i fewn ac mae hwnna’n golygu bod llai o ddewis gan bobol o ran ble mae caniatâd gyda nhw i fynd os dyn nhw ddim eisiau hunanynysu pan maen nhw’n dod adre’ a gwario lot o arian ar brofion.

“Dwi ddim yn gweld hynny’n newid. Wrth gwrs wnawn ni gadw llygad ar y sefyllfa a byddwn ni’n gwneud y penderfyniad yna ar y cyd, gobeithio, gyda Llywodraeth Prydain.”