Mae 19 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn noson arall o anhrefn yng nghanol dinas Dulyn yn Iwerddon neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 5).

Cafodd poteli a gwrthrychau eraill eu taflu at yr heddlu wrth iddyn nhw geisio gwasgaru pobol am dorri cyfyngiadau Covid-19.

Yn ôl y Gardai, heddlu Iwerddon, roedd y rhan fwyaf o bobol yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd ac yn ymddwyn yn gyfrifol, ond roedd grwpiau bach o bobol yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Cafodd poteli eu taflu atyn nhw mewn sawl lleoliad yn y brifddinas, ac roedd sawl achos o ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys rhoi bin ar dân.

Dioddefodd un person, nad oedd yn rhan o’r fath ymddygiad, ymosodiad ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd nifer o swyddogion eu hanafu a chafodd un cerbyd yr heddlu ei ddifrodi.

Cafodd cyfanswm o 19 o bobol eu harestio, gan gynnwys dau lanc sydd bellach yn destun gorchymyn ieuenctid, a chafodd chwech o bobol rybudd.

Cafodd un person ei ryddhau dan ymchwiliad am ymddwyn yn groes i’r drefn gyhoeddus a chafodd deg o bobol eu cyhuddo o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Dywed yr awdurdodau mai cosbi pobol fydd y cam olaf bob tro, ac mae’r heddlu’n apelio ar bobol i gadw at y cyfyngiadau, sy’n cynnwys peidio ag ymgynnull mewn grwpiau mawr, gwisgo mwgwd mewn llefydd cyhoeddus a chadw pellter oddi wrth bobol eraill.

Ond maen nhw’n pwysleisio mai cyngor ac nid rheolau yw gwisgo mwgwd a chadw pellter.

Mae Mary Lou McDonald, llywydd Sinn Fein, wedi mynegi ei phryder am y sefyllfa.