Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ddweud wrth arweinwyr gwledydd y G7 ei fod e eisiau i’r byd “drechu Covid” erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Fe fydd e’n galw am gymryd camau i adnabod amrywiolion cyn iddyn nhw orfodi gwledydd i gyflwyno cyfnodau clo eto, ac yn pwysleisio pwysigrwydd rhaglen frechu.
Bydd yr arweinwyr yn dod ynghyd yng Nghernyw yr wythnos hon – y tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod wyneb yn wyneb ers dechrau’r pandemig Covid-19.
Mae’n dweud mai brechu’r byd yn erbyn Covid fyddai’r “cyflawniad mwyaf yn hanes meddyginiaeth”, ac mai trechu’r feirws yw’r “her fwyaf ers y rhyfel”.
Mae adroddiadau bod Boris Johnson yn bwriadu gohirio llacio’r cyfyngiadau ar Fehefin 21 am bythefnos arall er mwyn rhoi mwy o amser i ragor o bobol gael eu brechu.
Fe fydd e’n galw ar nifer o wledydd sydd â’r economïau gorau i helpu gwledydd tlotach drwy rannu adnoddau, sy’n cynnwys brechlynnau Covid-19.
Daw hyn wrth i’r Sunday Times adrodd bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu rhoi dros 100m dos o frechlynnau i wledydd eraill, gan roi gwerth £2bn o frechlynnau er mwyn i’r byd allu ceisio brechu pawb yn y byd.
Torri cymorth rhyngwladol
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Prydain wedi cael gwybod y gallai’r cynlluniau i dorri cymorth rhyngwladol o 0.7% o’r incwm cenedlaethol i 0.5% danseilio’u hygrededd.
Daw’r rhybudd gan elusennau gan gynnwys Oxfam, Achub y Plant a WWF UK, sydd wedi cael ei weld gan y BBC.
Mae’r llywodraeth yn rhoi’r bai ar niwed sydd wedi’i achosi gan Covid-19 am y penderfyniad i dorri gwariant ar gymorth, ac mae disgwyl i ychydig yn llai na £10bn gael ei roi i adrannau ar gyfer gwariant cymorth yn 2021-22.
Ddydd Sadwrn (Mehefin 12), bydd arweinwyr gwledydd y G7 yn cael cwmni arweinwyr Awstralia, De Affrica, De Corea ac India i drafod iechyd a newid hinsawdd, a daw hyn wrth i’r pryderon am amrywiolyn Delta barhau.
Fe fu 97 o achosion o’r amrywiolyn yng Nghymru hyd yn hyn.