Mae gweinidogion cyllid gwledydd y G7 wedi cytuno ar raddfa sylfaenol fyd-eang o dreth gorfforaethol a diwygiadau i’r system dreth i dargedu cwmnïau ar-lein rhyngwladol anferthol.

Wrth groesawu’r cytundeb ‘hanesyddol’ wedi deuddydd o drafodaethau yn Llundain, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak fod gweinidogion cyllid y saith gwlad wedi ymrwymo i gyfradd dreth o ‘15% o leiaf’.

Roedd Arlywydd America, Joe Biden, yn wreiddiol wedi galw am gyfradd dreth gorfforaethol o 21%, ac mae’r union gyfradd yn debygol o gael ei thrafod mewn cyfarfod pellach y mis nesaf.

Fe fydd newidiadau’n cael eu gwneud hefyd i sicrhau bod corfforaethau mawr, yn enwedig rhai sydd â phresenoldeb helaeth ar-lein, yn talu trethi yn y gwledydd lle maen nhw’n gweithredu, yn ogystal â’r lle mae eu pencadlys.

“Dw i wrth fy modd i gyhoeddi heddiw, bod, ar ôl blynyddoedd o drafod, gweinidogion cyllid G7 wedi cyrraedd cytundeb hanesydd ar ddiwygio’r system drethi,” meddai Rishi Sunak.

“Mae hyn er mwyn ei gwneud yn addas ar gyfer yr oes ddigidol, ond yn fwy na dim er mwyn sicrhau ei bod yn deg, fel bod y cwmnïau iawn yn talu’r dreth iawn yn y lleoedd iawn.”

Gwledydd y G7 yw Prydain, America, yr Almaen, Japan, Canada, Ffrainc a’r Eidal. Maen nhw’n cynnwys 10% o boblogaeth y byd, ond yn cyfrif am 40% o GDP byd-eang.

Fe fydd arweinwyr y gwledydd hyn yn cyfarfod mewn uwch-gynhadledd yng Nghernyw yr wythnos nesaf.