Mae ymgyrch wedi ei lansio i annog y cyhoedd i blannu mwy o goed a phlanhigion.

Mae’r cynllun ar y cyd gan Lywodraeth Prydain ac amrywiol elusennau i hybu byd natur yn cyd-ddigwydd â Diwrnod Amgylchedd y Byd heddiw (dydd Sadwrn 5 Mehefin).

Caiff y cyhoedd eu hannnog i blannu blodau sy’n cefnogi peillwyr, creu lleiniau o lysiau, gadael i’w lawntiau dyfu neu ymuno â phrosiectau natur sy’n cael ei redeg gan fudiadau amgylcheddol.

“Mae pob cam sy’n ychwanegu at fyd natur – pob bwlb, had ac eginyn – yn gam at adfer ein bywyd gwyllt ac at guro newid hinsawdd,” meddai Dr Richard Benwell, prif weithredwr Wildlife and Countryside Link, clymblaid o grwpiau cadwriaethol.

“Gallai cynllun y Llywodraeth i ysbrydoli gweithredu cymunedol fod o gymorth, os bydd yn digwydd law yn llaw â chyfreithiau newydd i warchod byd natur.”

Dywedodd Sue Biggs, cyfarwyddwr cyffredinol y Royal Horticultural Society, sydd hefyd yn rhan o’r cynllun, fod planhigion a garddio yn chwarae rhan bwysig mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

“Fel prif elusen arddio Prydain rydym yn parhau i gefnogi miliynau o arddwyr i geisio ffyrdd mwy cynaliadwy o arddio,” meddai.

“Dw i’n pwyso’n gryf ar bawb i blannu dros ein planed a chwarae eu rhan mewn gwneud Prydain yn lle gwyrddach a harddach.”