Cafodd 16 o bobl eu harestio yn ardal y Rhyl yr wythnos yma mewn cyrch yn erbyn gwerthwyr cyffuriau.
Mae’r heddlu’n apelio am help pobl leol i chwalu’r gangiau ‘County Lines’ sy’n dod â chyffuriau o Fanceinion i mewn i’r dref a’r ardal.
“Roedd yr ymgyrch yn anelu at y bobl hynny sy’n gwerthu cyffuriau ar ein strydoedd ac yn manteisio ar bobl fregus,” meddai’r Uwcharolygydd Dros Dro Alwyn Williams.
“Er mai ymgyrch benodol dros wythnos oedd hon, rydym wrthi bob dydd yn ymladd yn erbyn y rheini sy’n niweidio’n cymunedau.
“Rydym yn benderfynol o wneud ein cymunedau’n fwy diogel, sy’n golygu cael gwared ar gyffuriau anghyfreithlon oddi ar y strydoedd, a gwarchod pobl fregus drwy ddod â’r rhai sy’n eu cam-fanteisio o flaen eu gwell.
“Rydym hefyd yn benderfynol hefyd o wneud y Rhyl yn ardal lle nad oes croeso i’r gangiau cyffuriau hyn a dim ond y cam cyntaf yw hwn. Nid ydym yn gallu gwneud hyn heb gymorth cymunedol. Felly rydym yn apelio ar bobl leol i roi unrhyw wybodaeth o ran gweithgarwch o’r fath i Heddlu Gogledd Cymru fel y gallwn gymryd camau pellach.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd Gogleddd Cymru, Andy Dunbobbin: “Roedd hon yn wythnos arall oedd yn amlwg yn llwyddiant. Rwyf yn gobeithio bod y newyddion am y gwarantau a’r arestiadau yn tawelu meddwl pobl leol na ddylai Gogledd Cymru fod yn darged hawdd.”