Mae’r corff sy’n cynrychioli cwmnïau hedfan Prydain yn cyhuddo’r Llywodraeth o anghysondeb a diffyg trylowder yn y ffordd mae’n newid rheolau ar deithio tramor.
Dywed Tim Alderlsade o Airlines UK y dylai teithwyr i Portiwgal fod wedi cael mwy o rybudd cyn i’r wlad gael ei thynnu oddi ar “restr werdd” y Llywodraeth.
Bydd pobl sy’n dychwelyd i Brydain o Portiwgal o 4am fore Mawrth ymlaen yn gorfod hunan-ynysu gartref am 10 diwrnod, ac yn sgil hyn mae ymwelwyr yn gorfod talu arian mawr i hedfan yn ôl adref cyn y daw’r rheol i rym.
“Mae’r diffyg tryloywder yn achosi anhrefn llwyr gan nad oes neb yn gwybod beth sy’n gorfod digwydd i wledydd symud i wyrdd i felyn, neu o felyn i wyrdd,” meddai Tim Alderslade.
“Ar hyn o bryd does dim cysondeb. Mae’n ymddangos i mi eu bod nhw’n newid eu meddwl a’r meini prawf o wythnos i wythnos. Mae’r golygu ei bod yn amhosibl i’r diwydiant gynlluniau, ac yn profi’n amhosibl i gwsmeriaid.”
‘Dewisiadau anodd’
Yn y cyfamser, mae gwyddonydd ar un o baneli ymgynghorol y Llywodraeth yn cydnabod bod teithio tramor yn golygu dewisiadau anodd i’r Llywodraeth.
“Os mai’r epidemig yw eich unig bryder, fe fyddwch chi bob amser yn ceisio cyfyngiadau mor llym ag sy’n bosibl,” meddai Dr Mike Tildesley o’r panel Spi-M.
“Fodd bynnag, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae’n rhaid inni feddwl yn ymarferol yn ogystal. Mae angen inni feddwl am gefnogi diwydiannau, oherwydd pe baen ni’n gwahardd teithio am y 12 mis nesaf er enghraifft, yna byddai’r diwydiant mewn trafferthion enbyd.
“Felly mae angen ychydig yn fwy o reoli risg, ac o gydbwyso’r risg â’r difrod o fod dan gyfyngiadau llym am gyfnod hir – ac mae hynny’n golygu bod y Llywodraeth mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd.”