Mae un o weinidogion Llywodraeth yr Alban yn pwyso ar wrthbleidiau Holyrood i gefnogi’r alwad am ddatganoli pwerau tros gyflogaeth i Senedd yr Alban.

Ond mae’r alwad yn cael ei galw’n “frwydr wleidyddol y gellir yn hawdd ei darogan”, ac mae rhai yn galw ar Shona Robinson, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yr Alban, i ganolbwyntio ar y pwerau sydd ar gael eisoes.

Mewn llythyr, mae hi’n dadlau bod angen “pwerau datganoledig llawn” ar Senedd yr Alban er mwyn “trawsnewid gweithleoedd a threchu tlodi”.

Mae hi’n bwriadu gofyn i Lywodraeth Prydain am ragor o bwerau yn dilyn dadl seneddol ar drechu tlodi.

‘Embaras’

Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi ymateb yn chwyrn gan ddweud y dylai Shona Robinson deimlo “embaras” wrth alw am ragor o ddatganoli o ystyried record Llywodraeth yr Alban yn y meysydd sydd wedi’u datganoli eisoes.

Mae e’n ei chyhuddo o “dorri addewid” i gyflwyno budd-daliadau newydd a gafodd eu datganoli yn 2016, ac mae’n rhybuddio na fydd y pwerau hynny’n cael eu defnyddio cyn 2024.

Mae’n dweud bod Llywodraeth yr Alban “wedi profi” eu bod nhw’n “gwbl analluog wrth gyflwyno pwerau newydd i’r Alban”.

Yn ôl Llafur yr Alban, mae pwerau cyflogaeth a thlodi “yn faterion eithriadol o ddifrifol na ddylid eu chwifio o gwmpas at ddibenion y wasg gan weinidogion cabinet”.

Mae Willie Rennie, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, hefyd wedi cyhuddo’r SNP o “fanteisio ar fater tlodi i ddatblygu eu dadleuon cyfansoddiadol”.