Mae Tony Blair, cyn-brif weinidog Llafur Prydain, yn galw am “wahaniaethu” rhwng y rhai sydd wedi derbyn brechlyn Covid-19 a’r rhai sydd heb “at ddibenion rhyddid” er mwyn galluogi pobol i deithio.

Dywed nad oes “synnwyr o gwbl trin y rhai sydd wedi derbyn brechlyn yr un fath â’r rhai sydd heb”.

Daw hyn wrth iddo feirniadu ap “annigonol” y Gwasanaeth Iechyd hefyd, ar ôl i Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-Eang gyhoeddi adroddiad sy’n dweud bod “statws brechu’n bwysig” ac y dylid cyflwyno pasbort iechyd “i alluogi dinasyddion i brofi eu statws mewn ffordd ddiogel sy’n cynnal preifatrwydd”.

Mae’n dweud y byddai cyflwyno trefn o’r fath “yn dileu rhai cyfyngiadau i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn”, ac yn galluogi ailagor yr economi, a’i bod yn bwysig fod opsiwn arall ar gael sy’n golygu na fydd rhaid cyflwyno cyfnod clo arall.

“Wrth gwrs ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi’u brechu a’r rhai nad ydyn nhw wedi’u brechu,” meddai.

“Ond mae rheoli risg yn gwbl seiliedig ar wahaniaethu rhwng gwahanol fathau a lefelau o risg.

“Does dim byd pwysicach i risg na brechu, a dyna’n union pam rydyn ni’n ei wneud e.

“Ydyn, trwy alluogi mwy o ryddid a llai o gyfyngiadau i’r rhai sydd wedi’u brechu, rydyn ni’n darparu ysgogiad pwerus i gael brechlyn, ond mae hwn yn amcan polisi cyhoeddus cwbl ddilys.

“Ac eithrio am resymau meddygol, dylid brechu pobol.”

Mae Llywodraeth Prydain wedi “diolch” i Tony Blair am ei “gefnogaeth barhaus”, ond yn dweud ei fod e “wedi dysgu am bethau sydd eisoes ar y gweill”.