Mae angen gwelliannau syweddol mewn cyfleuster iechyd meddwl sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym Mhontypridd.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad o’r gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu darparu yn Heatherwood Court, sydd dan reolaeth yr Iris Care Group.

Cafodd yr arolwg ei gynnal dros gyfnod o dridiau fis Rhagfyr y llynedd, gan ganolbwyntio ar dair ward.

Ar hyn o bryd, mae lle i 35 o gleifion mewn unedau rhywedd unigol yn yr ysbyty adsefydlu diogelwch isel dan glo sy’n cynnig triniaeth iechyd meddwl arbenigol i ddynion a merched.

Darlun cymysg

Yn dilyn arolygiad blaenorol fis Tachwedd 2022, daeth y lleoliad yn rhan o broses Gwasanaeth sy’n Peri Pryder Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gaiff ei defnyddio lle mae methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am wasanaeth.

Yn ystod yr arolygiad diweddar, cafodd hysbysiad sicrwydd ei gyhoeddi ar unwaith, oherwydd safonau glendid gwael y lleoliad a’r ffaith nad oedd hyfforddiant achub bywyd digonol ar waith i’r staff.

Parhaodd Heatherwood Court i fod yn Wasanaeth sy’n Peri Pryder tan fis Ebrill eleni, ond ers hynny maen nhw wedi rhoi sicrwydd digonol ynglŷn â’r gwelliannau angenrheidiol ac mae’r cyfleuster bellach wedi’i isgyfeirio o’r broses hon.

Yn ystod yr arolygiad diweddar, roedd safonau glendid gwael ar bob un o’r wardiau a doedd cyflwr y safle ddim yn adlewyrchu gwasanaeth iechyd meddwl cleifion mewnol modern.

Roedd sawl bwlch yn yr amserlenni glanhau ac, felly, doedd dim sicrwydd fod y cleifion yn cael eu diogelu rhag heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Gwelodd yr arolygwyr staff ymroddedig oedd yn trin y cleifion ag urddas a pharch.

Rhoddodd y cleifion adborth cadarnhaol am eu profiadau, ar y cyfan, gan ganmol eu gofal a’r rhyngweithio rhyngddyn nhw â’r staff.

Roedd staff wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’w helpu i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd trin pob claf mewn ffordd deg.

Roedd gan y cleifion raglenni gofal unigol oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a’u risgiau unigol, ac roedden nhw hefyd yn gallu ymgysylltu a rhoi adborth ar eu gofal mewn sawl ffordd.

Roedd mannau awyr agored, clinigau iechyd ac amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig ar gael i’r cleifion, ar y safle ac yn y gymuned leol.

Pryderon

Ond doedd yr Hyb Cymdeithasol, oedd yn cynnwys cyfleusterau fel caffi a siop, ddim ar agor mwyach.

Fe wnaeth yr arolygwyr ofyn i’r gwasanaeth ystyried dichonolrwydd adfer yr hyb er mwyn rhoi cyfle i’r cleifion ymlacio a chymdeithasu.

Roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ac effeithiol ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol, ac roedd gweithgareddau archwilio a systemau monitro yn helpu i sicrhau bod yr ysbyty yn canolbwyntio ar wella.

Roedd y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion ar y wardiau ar adeg yr arolygiad, a phrosesau effeithiol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod staff yr ysbyty yn diogelu’r cleifion yn briodol.

Fodd bynnag, doedd y staff ddim wedi cael hyfforddiant achub bywyd priodol, megis technegau dadebru, er mwyn sicrhau llesiant a diogelwch y cleifion mewn argyfwng meddygol.

Roedd y gwasanaeth wedi rhoi gwybod i’r Arolygiaeth am wallau o ran meddyginiaeth yn yr ysbyty yn ystod y misoedd cyn yr arolygiad.

Fodd bynnag, roedd y gwasanaeth wedi rhoi system Cofnodion Rhoi Meddyginiaeth (siartiau MAR) electronig ar waith yn ddiweddar, a doedd dim gwallau o ran meddyginiaeth wedi bod ers i’r system newydd gael ei rhoi ar waith.

Ond gwelodd yr arolygwyr rai o’r cleifion yn cael meddyginiaeth drwy hatsh yn nrws yr ystafell clinig, ac maen nhw wedi gofyn i’r gwasanaeth adolygu’r ffordd gaiff meddyginiaeth ei rhoi er mwyn sicrhau diogelwch, preifatrwydd a chyfrinachedd y cleifion yn llwyr.

At hynny, rhaid i’r oergelloedd meddyginiaeth gael eu cloi a rhaid i wiriadau dyddiol o dymheredd yr oergelloedd gael eu cwblhau, er mwyn sicrhau bod meddyginiaeth yn cael ei storio ar y tymheredd gaiff ei argymell gan y gwneuthurwr.

Dywedodd y mwyafrif o’r staff y bydden nhw’n argymell yr uned fel lle i weithio, a gwnaethon nhw nodi y bydden nhw’n hapus â safon y gofal sy’n cael ei ddarparu.

Ond cyfeiriodd rhai aelodau o’r staff at amgylchedd gwaith gwael, gan nodi nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i roi’r gofal sydd ei angen i gleifion.

Argymhellodd yr arolygwyr y dylai’r gwasanaeth ymgysylltu â’r staff er mwyn deall eu safbwyntiau yn well a rhoi sicrwydd iddyn nhw fod camau yn cael eu cymryd.

‘Hanfodol bod gwelliannau yn cael eu gwneud’

“Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth i rai o’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac roedd yn hanfodol bod gwelliannau yn cael eu gwneud,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Mae’n galonogol clywed bod y lleoliad bellach wedi’i isgyfeirio o fod yn Wasanaeth sy’n Peri Pryder.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chwmni rheoli’r cyfleuster er mwyn sicrhau y parheir i wneud cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”