Mae Rob Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, dan bwysau i ymddiswyddo ar ôl iddo gael ei wahardd am chwe wythnos yn sgil ei ymddygiad rhywiol.

Mae Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, a Thangam Debbonaire, yr arweinydd cysgodol, ymhlith y rhai sy’n dweud y dylai adael ei swydd yn barhaol.

Fe gollodd e chwip y blaid ar ôl anfon negeseuon at gydweithiwr.

Yn ôl Thangam Debbonaire, dylai Roberts “wneud y peth iawn yn ôl staff ac aelodau a’r cyhoedd”, ac mae hi’n dweud bod staff yn “poeni” am y cyfnod pan ddaw e ’nôl.

Dywedodd Rees-Mogg wedyn ei fod yn “cytuno ynghylch yr aelod tros Delyn”.

“Fyddwn i ddim yn beirniadu ei etholwyr am deimlo nad oedd rhywun sydd wedi’i gael yn euog o rywbeth mor ddifrifol yn gynrychiolydd delfrydol”.

Mae Rees-Mogg wedi dweud yn y gorffennol y dylai wneud y peth “anrhydeddus” a chamu o’r neilltu “yn dilyn achos mor ddifrifol â hyn”.

Cafodd y cynnig i ddiarddel Rob Roberts dros dro ei dderbyn yn San Steffan ar Fai 27, ac fe gafodd y penderfyniad sêl bendith panel a gafodd ei sefydlu i fynd i’r afael ag achosion o’r fath.