Roedd gwario arian Covid-19 ar ymchwil i geisio barn pobol am yr Undeb “yn gwbl briodol a chyfiawn”, yn ôl Jacob Rees-Mogg.

Fe wnaeth Arweinydd Tŷ’r Cyffredin amddiffyn y gwariant gan ddweud bod cynnal arolwg yn helpu i ffurfio strategaeth gyfathrebu ynghylch negeseuon yn cynghori pobol i aros gartref ac i wisgo mygydau.

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r mater.

“Roedd y gwaith a gafodd ei wneud ar agweddau at yr Undeb yn beth rhesymol i gynnal pôl yn ei gylch,” meddai Jacob Rees-Mogg.

“Mae’n bwysig iawn wrth i chi ddatblygu strategaeth gyfathrebu i weithio allan sut fydd yn glanio fwyaf effeithiol, a chafodd cryn dipyn o waith ei wneud i gyfleu’r negeseuon ynghylch aros gartref, gweithio o adre’, gwisgo mygydau ac yn y blaen, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl briodol a chyfiawn.

“Rwy’n dychmygu y byddai llywodraethau eraill mewn amgylchiadau tebyg wedi gwneud bron iawn yr un fath.”

Ymateb Downing Street

Wrth leisio barn ar y mater, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street y byddai “pob llywodraeth gyfrifol” yn cynnal ymchwil i geisio barn y cyhoedd ynghylch y pandemig.

“Yn amlwg, mae’n bwysig gwybod beth mae holl rannau’r Undeb yn ei feddwl am faterion penodol fel y gallwn ni deilwra dulliau pe bai angen,” meddai.

“Rydym yn cydnabod fod iechyd yn fater sydd wedi’i ddatganoli ond mae yna elfennau lle mae angen ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”