Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y cyfyngiadau sy’n dal yn eu lle erbyn Gorffennaf 19 yn gallu cael eu llacio bryd hynny.
Mae’r rhain yn cynnwys gwisgo mwgwd yn gyhoeddus ac mae George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at daflu ei fwgwd unwaith na fydd yna “orfodaeth gyfreithiol” i’w wisgo.
Yn ôl Boris Johnson, prif weinidog Prydain, mae’r “data’n edrych yn dda” er mwyn gallu llacio’r cyfyngiadau sy’n weddill yn Lloegr ar y dyddiad dan sylw.
Daw hyn er gwaetha’r rhybudd gan arbenigwyr y gall fod angen parhau i wisgo mygydau er mwyn rheoli ymlediad Covid-19 yn y gymuned.
Yn ôl George Eustice, “bydd llawer o bobol eisiau gwaredu’r masgiau hynny”.
Ond mae’n dweud mai “mater arall” fyddai cyflwyno canllawiau ar gyfer parhau i wisgo mwgwd mewn llefydd fel trafnidiaeth gyhoeddus.