Mae aelodau’r Blaid Werdd wedi codi amheuon am gydweithio ffurfiol rhwng y blaid a’r SNP oni bai bod y blaid lywodraeth yn cadw at eu hymrwymiad i hawliau ar gyfer pobol drawsryweddol.

Mae’r Blaid Werdd yn cyhuddo’r SNP mewn llythyr agored o fod ag “ychydig iawn, os o gwbl, o barch at bobol draws”.

Mae’r llythyr gan 155 o aelodau at y cyd-arweinwyr Patrick Harvie a Lorna Slater yn galw arnyn nhw i herio’r SNP ynghylch eu record ar y mater, ac yn honni bod yna “gynrychiolwyr SNP sy’n feirniadol ar sail rhywedd” ar bob lefel o fewn y blaid ac sydd wedi “procio’r tân o ran panig yn yr Alban”.

Mae’r Blaid Werdd hefyd yn annog yr SNP i ddiddymu cyfraith sy’n atal gwerthu rhyw yn gyhoeddus, ac yn honi bod “problem gynyddol ynghylch trawsffobia” yn y wlad gan nad oes yna’r un aelod wedi’i herio  er iddyn nhw dorri’r cod ymddygiad.

“Felly rydyn ni’n gofyn pam fydden ni’n ystyried y syniad o fynd i unrhyw fath o gytundeb gyda phlaid sydd ag ychydig, os o gwbl, o barch at bobol drawsryweddol?”

Trafodaethau

Mae disgwyl i’r SNP a’r Blaid Werdd gynnal trafodaethau dros yr haf ar ôl i dymor Holyrood ddod i ben.

Ond mae angen i’r Blaid Werdd geisio sêl bendith eu haelodau cyn dechrau trafod.

Yn eu llythyr, mae’r aelodau hefyd yn galw am ofal iechyd i bobol drawsryweddol er mwyn lleihau amserau aros, a chynnydd ar gydnabyddiaeth gyfreithiol i bobol drawsryweddol drwy dystysgrifau.

Maen nhw hefyd yn galw am eglurhad gan yr SNP ynghylch pam nad ydyn nhw’n herio agweddau sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobol drawsryweddol.

Ond yn ôl polau’r Blaid Werdd, mae eu haelodau’n credu bod materion yn ymwneud â’r amgylchedd megis adferiad gwyrdd yn bwysicach.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddod i gytundeb ar raglen sy’n sicrhau Alban decach a gwyrddach,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Werdd.