Mae arbenigwr amaethyddol yn annog cerddwyr a ffermwyr i fod yn wyliadwrus er mwyn gwarchod da byw wrth i bobol barhau i gerdded yng nghefn gwlad yn ystod cyfyngiadu symud Covid-19.

Mae James Treverton, sy’n gweithio ym maes yswiriant gwledig, yn annog y cyhoedd a ffermwyr i gymryd camau i ddiogelu eu bywydau eu hunain, da byw a bywoliaethau yng nghefn gwlad.

Mae’r Cod Cefn Gwlad wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar, a hynny wrth i dda byw gael eu hanfon allan i’r caeau, ac mae’n annog ffermwyr i gadw’r cyhoedd a’u da byw ar wahân.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, cafodd 24 o bobol eu lladd gan anifeiliaid yn y diwydiant amaethyddol ac roedd sawl aelod o’r cyhoedd yn eu plith, yn ôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Cafodd 18 marwolaeth eu hachosi gan wartheg a chwech gan deirw.

Cyngor

“Mae’n bwysig i bobol gofio fod tipyn o gefn gwlad yn dir gweithio a bod eu gweithredoedd yn cael effaith ar fywydau a bywoliaethau eraill – ynghyd â’u diogelwch eu hunain,” meddai James Treverton.

“Yn ogystal â bod yn gwrtais wrth y rhai sy’n ffermio’r tir lleol, mae’n bwysig bod yn hollol ymwybodol o’r risgiau a ddaw o ymweld â chefn gwlad.

“Gall hyd yn oed yr anifeiliaid fferm mwyaf addfwyn fod yn beryglus pan fyddan nhw dan straen, gyda thywydd gwael, salwch, amharu neu reddf y fam yn sbardun.

“Mae ffermwyr yn deall ac yn adnabod arwyddion straen – ond dydy nifer o aelodau’r cyhoedd ddim.

“Yn drist iawn, bob blwyddyn mae pobol yn cael eu hanafu’n ddifrifol ac yn angheuol gan dda byw, ac ni ddylai cerddwyr danbrisio’r anifeiliaid hyn, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, pan fo gan wartheg loi yn eu hymyl gyda greddf y fam i warchod ar waith.”

Mae’n cynghori cerddwyr i:

  • ddefnyddio map wrth gerdded er mwyn cynllunio’r daith a darllen arwyddion ar hyd y ffordd
  • aros ar lwybrau penodedig a defnyddio gatiau a bylchau yn ffiniau’r caeau
  • gadael gatiau fel ag y maen nhw – ar agor ar gyfer mynediad neu ynghau i gadw anifeiliaid i mewn, a rhoi digon o le i dda byw wrth fynd heibio
  • peidio â gadael i gŵn gerdded heb eu tennyn yn ymyl da byw

Mae’n cynghori ffermwyr i:

  • gymryd camau i sicrhau nad oes modd i gerddwyr gael mynediad i lefydd lle mae eu da byw
  • osgoi bod yn esgeulus wrth i’r cyhoedd gerdded ar lwybrau sy’n croesi eu caeau
  • gadw at reolau iechyd a diogelwch neu wynebu dinistr i’w busnes
  • cadw gwartheg mewn caeau nad oes modd i’r cyhoedd gael mynediad iddyn nhw, yn enwedig pan fo lloi yno ar adegau prysur
  • peidio â chadw teirw mewn caeau lle mae llwybrau cyhoeddus os yw’n anghyfreithlon gwneud hynny, a bod yn wyliadwrus os yw’n gyfreithlon, a thynnu unrhyw dda byw o’r cae os yw ei ymddygiad yn peryglu eraill
  • archwilio ffiniau caeau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel a heb eu difrodi, a sicrhau nad yw’r cyhoedd yn bresennol os oes angen symud gwartheg – a’u rhybuddio os ydyn nhw yno
  • codi arwyddion priodol pan fo anifeiliaid mewn caeau, ond peidio ag annog y cyhoedd i gadw draw os oes hawl ganddyn nhw i fod yno’n ddiogel
  • cofio bod llwybrau cyhoeddus yn debygol o fod yn fwy prysur nag arfer