Mae Mark Isherwood, AoS Gogledd Cymru, wedi galw am y wybodaeth ddiweddaraf am agor trydedd groesfan i mewn ac allan o Ynys Môn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo agor y drydedd groesfan erbyn 2022.

Yn 2007, nododd ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru wyth opsiwn ar gyfer llacio’r tagfeydd traffig i mewn ac allan o Ynys Môn, gan gynnwys pont newydd.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cododd Mark Isherwood y mater gyda’r Prif Weinidog blaenorol, Carwyn Jones.

Bedair blynedd yn ddiweddarach eto, a heb unrhyw gynnydd o hyd, cododd Mark Isherwood y mater eto mewn ymateb i Ddatganiad ddoe (dydd Mercher, Mehefin 23) gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd ar ‘Adolygiad Ffyrdd’, a gyhoeddodd oedi ar bob cynllun ffordd newydd.

“Pan godais hyn gyda’r Prif Weinidog blaenorol bedair blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2017, yma, dywedais: ‘Yn amlwg, mae tagfeydd ar bontydd presennol Menai a Britannia wedi bod yn broblem ers blynyddoedd lawer,” meddai Mark Isherwood.

“Mae’n ddegawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi wyth opsiwn, gan gynnwys pont newydd, ond nid aeth hynny ymlaen i gyflawni.

“Dywedoch chi fis Mai diwethaf (yn 2016) y byddech yn addo gwneud y drydedd groesfan yn flaenoriaeth i Ogledd Cymru os ydych yn ffurfio Llywodraeth ac, wrth gwrs, cyhoeddodd eich Llywodraeth cyn y Nadolig y llynedd’ (yn 2016) ‘ei bod wedi penodi ymgynghorwyr i edrych ar lwybrau ar gyfer croesfan newydd arfaethedig i Ynys Môn, a allai ddechrau erbyn 2021 os caiff sêl bendith.’

“Gofynnais iddo ‘roi sicrwydd na fyddwn yn cael yr un peth ag yn 2007 pan gawsom sicrwydd tebyg ar ôl i adroddiad a gomisiynwyd gael ei gynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’ch bod yn rhagweld y bydd hyn yn mynd rhagddo’.

Atebodd y Prif Weinidog ar y pryd: ‘Rydym wedi penodi Aecom i gefnogi cam nesaf y gwaith datblygu.

‘Bydd hynny’n arwain at gyhoeddiad am lwybr ym mis Mai 2018. Ein nod yw gweld trydedd groesfan Menai ar agor yn 2022.’

“Roedd hynny’n addewid bedair blynedd yn ôl. Pa mor gadarn yw’r addewidion heddiw, neu a oes gennych rywbeth i’w ddweud wrthym am groesfan Menai?”

Ymateb

Yn ei ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod “angen adolygu pob cynllun nad yw ar lawr gwlad ar hyn o bryd, ac mae angen datblygu cyfres o fetrigau i benderfynu pa rai ddylai fynd rhagddynt a pha rai na ddylent”.

“Yn y cyfamser, gallwn ailddyrannu rhywfaint o’r arian hwnnw tuag at gynnal a chadw ffyrdd a gwella trafnidiaeth gyhoeddus,” meddai Lee Waters.

“Felly, gellir ymdrin â’r problemau a nodwyd gan Mark Isherwood mewn ffyrdd eraill.”