Mae CBI Cymru wedi galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu er mwyn cyflawni’r hyn sydd orau i Gymru.
Dywed Ian Price, sy’n gyfarwyddwr ar y gymdeithas, fod angen gweithredu’n gyflym er mwyn manteisio ar gyfleoedd am swyddi newydd a gwella safonau byw.
Rhybuddia fod Cymru wedi colli cyfle i adfywio ei heconomi yn dilyn argyfwng ariannol 2008 ac na ddylai’r un peth ddigwydd ar ôl y pandemig.
Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gyflym er mwyn creu swyddi a gwella safonau byw.
“Y flaenoriaeth ydi beth sydd orau i Gymru a dylai gwleidyddiaeth ddim bod yn rhan o hynny,” meddai.
“Roedd popeth yn cymryd mor hir i’w wneud, ac i ryw raddau, dros y 18 mis diwethaf, rydym i gyd wedi dysgu i wneud pethau lawr ynghynt.
“Mae’n rhaid i ni barhau gyda hynny ond y peryg ydi, unwaith mae hyn drosodd, y byddwn ni’n mynd yn ôl i’r hen arferion a phoeni am fân fanylion popeth.”
David Davies am gael “perthynas agosach”
Wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru, dywedodd David Davies, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru ac yn Aelod Seneddol Mynwy, y “byddan ni eisiau cael perthynas agosach gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud hynny yn glir sawl gwaith.
“Mae perthnasau rhwng Gweinidogion yn iawn y tu ôl i’r scenes, fe wnes i siarad gyda Vaughan Gething ddoe.
“Rydyn ni eisiau cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gwneud hynny yn glir iawn.
“Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn pethau megis cyfarfodydd Cobra, felly maen nhw’n gwybod beth sy’n dod allan o Lywodraeth Prydain.
“Maen nhw’n gallu dylanwadu ar ein penderfyniadau ni trwy’r cyfarfodydd hyn.
“Ond ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cael yr un hawl i wybod beth mae gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
“Ac mae hynny yn anffodus oherwydd rydyn ni eisiau cael perthynas gwell gyda nhw ac rydyn ni wedi eu gwahodd nhw i mewn i sicrhau bod ganddynt wybodaeth am yr hyn mae Llywodraeth Prydain yn ei benderfynu.”
‘Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barchu datganoli’
“Rydym yn cydweithio yn agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfres o faterion sy’n bwysig i Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Serch hynny, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barchu datganoli a rôl Llywodraeth Cymru.
“Yn ystod y pandemig Covid-19, mae busnesau Cymreig wedi elwa o ddefnyddio datrysiadau Cymreig, sydd wedi’u cynllunio i adeiladu ar gymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae ein hymrwymiad i fusnesau Cymreig a chynorthwyo mewnfuddsoddiad yn glir.
“Dangosodd ffigurau gafodd eu cyhoeddi’r wythnos hon mai Cymru oedd unig wlad y Deyrnas Unedig i weld cynnydd yn nifer y prosiectau mewnfuddsoddiad dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae hynny’n diogelu 7,000 o swyddi, diolch i gymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru.”