Mae John McAfee, arbenigwr meddalwedd gwrth-feirws, wedi’i ganfod yn farw yn ei gell yn Barcelona wrth aros i gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.
Roedd y dyn 75 oed yn wynebu cyhuddiadau’n ymwneud â thwyll trethi.
Ceisiodd staff y ddalfa ei drin ond fe fu farw yn ei gell, yn ôl datganiad gan Lywodraeth Catalwnia.
Wnaeth y datganiad ddim ei enwi, ond roedd yn dweud mai dyn 75 oed oedd yn aros i gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau oedd wedi marw “trwy hunanladdiad”.
Penderfynodd Llys Cenedlaethol Sbaen ddydd Llun (Mehefin 21) y bydden nhw’n ei estraddodi, er ei fod e wedi dadlau yn ystod gwrandawiad cynharach fod cymhelliant gwleidyddol y tu ôl i’r cyhuddiadau ac y byddai’n treulio gweddill ei oes dan glo pe bai’n cael ei estraddodi.
Fe allai fod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i’w estraddodi, ac fe fyddai’n rhaid i’r penderfyniad i’w estraddodi fod wedi cael sêl bendith Cabinet Llywodraeth Sbaen.
Mae lle i gredu ei fod e wedi methu â datgan elw a wnaeth o hyrwyddo arian crypto fel rhan o’i waith ymgynghori, yn ogystal ag incwm fel siaradwr cyhoeddus a’r hawliau i stori ei fywyd ar gyfer rhaglen ddogfen.
Cafodd ei arestio ym maes awyr Barcelona fis Hydref y llynedd a’i gadw yn y ddalfa hyd nes bod gwrandawiad estraddodi’n cael ei gynnal.