Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisiau i bron i 20,000 o bobol gael dau ddos o frechlyn Covid-19 er mwyn “ein helpu yn y pen draw i ddychwelyd i fywyd normal”.

Maen nhw eisiau gweld 10,173 yn rhagor o bobol rhwng 30 a 39 oed yn cael eu brechu, yn ogystal ag 8,609 o bobol 18-29 oed.

Yn eu diweddariad diweddaraf, maen nhw’n dweud bod bron i hanner miliwn o drigolion yn y gogledd wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid-19, a bod 338,018 wedi’u brechu’n llawn.

Y nod yw brechu o leiaf 75% o’r ddau gategori, gydag o leiaf 80% yn cael brechlyn ym mhob grŵp dros 40 oed.

Ond yn y grŵp oedran 30-39 oed, mae 62% wedi cael brechlyn, a 71% o’r grŵp oedran 18-29 oed wedi cael brechlyn.

Gwarchod y gymuned

“Rydyn ni eisiau i’r nifer sy’n derbyn fod mor uchel â phosib, ond yn anelu am o leiaf 75% ym mhob grŵp oedran cymwys, er mwyn cyrraedd lefel o warchodaeth gymunedol a fydd yn ein helpu yn y pen draw i ddychwelyd i fywyd normal,” meddai’r bwrdd iechyd.

“Yn yr wythnos i ddod, byddwn ni’n ysgrifennu at oddeutu 80,000 o bobol nad ydyn nhw eto wedi derbyn dos cyntaf.

“Bydd hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi dweud wrthym eisoes nad ydyn nhw am gael eu brechu.

“Rydym yn gobeithio bod rhai o’r bobol hynny wedi newid eu meddyliau, oherwydd y bygythiad newydd o ganlyniad i amrywiolyn Delta.”

Y data diweddaraf

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod un dos yn lleihau’r risg o ddal y feirws ac o fod angen triniaeth yn yr ysbyty o ryw 75%, ac o ryw 90% ar ôl cael ail ddos.

Mae rhai camargraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o hyd am y brechlyn, gyda nifer o bobol yn dal i boeni am gael eu brechu.

Mae tri arbenigwr wedi cytuno i gael eu holi mewn sesiwn holi ac ateb ar dudalen Facebook North Wales Live’s Facebook o 5.30yh heno (nos Iau, Mehefin 24).

Ysbytai maes

Yn y cyfamser, mae’r gwaith o ddychwelyd safleoedd dau o ysbytai maes yr ardal yn ôl i’w perchnogion gwreiddiol wedi dechrau.

Bydd y gwaith o frechu pobol yn symud o Ganolfan Brailsford i Eglwys Gadeiriol Bangor ar Orffennaf 5, ac fe fydd Canolfan Tenis Arfon hefyd yn cael ei defnyddio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r haf.

Bydd Ysbyty Enfys Llandudno hefyd yn dod i ben yn Venue Cymru ar Orffennaf 29, gyda chlinigau brechu’n cael eu cynnal ym Mharc Busnes Llanelwy o Orffennaf 13 ac yn Llandudno o ddechrau mis Awst.

Bydd clinigau eraill yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y ganolfan frechu yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn weithredol tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, a bydd clinigau dros dro yn cael eu cynnal yn Wrecsam a Sir y Fflint yn ystod yr wythnosau i ddod.

Os gafodd pobol y dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca neu Pfizer fwy nag wyth wythnos yn ôl, mae modd gwneud apwyntiau i dderbyn ail ddos o’r un brechlyn drwy fynd i wasanaeth bwcio ar-lein Betsi Cadwaladr.