Mae Plaid Cymru wedi galw am roi rhybuddion ar gynnyrch sy’n achosi’r difrod mwyaf i’r ddaear.
Galwa Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar Newid Hinsawdd, am roi Rhybudd Iechyd Byd-eang ar gynnyrch nad yw’n gynaliadwy.
Daw’r galwadau cyn Diwrnod ‘Ewch yn Wyrdd’ fory (dydd Gwener, Mehefin 25) sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â datgoedwigo trofannol.
Bob blwyddyn, mae ardal sydd naw gwaith maint Cymru’n cael ei datgoedwigo yn sgil y galw am nwyddau bob dydd, megis olew palmwydd, coffi a phapur anghynaladwy.
Mae Plaid Cymru’n galw am roi rhybuddion ar goffi a siwgr nad ydyn nhw yn rhai Masnach Deg, ac ar olew palmwydd a soi nad ydyn nhw yn gynaliadwy.
Yn y Senedd yr wythnos hon, gofynnodd Delyth Jewell i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar y camau y maen nhw am eu cymryd i gwtogi’r cadwyni cyflenwad i gael gafael ar y nwyddau hyn.
“Dinistrio ysgyfaint y blaned”
“Byddem ni’n disgwyl rhybudd ar unrhyw gynnyrch a fyddai’n gwneud difrod i’n hiechyd – felly pam ddim ar gyfer iechyd ein planed?” meddai Delyth Jewell.
“Y syniad fyddai i’r Rhybuddion Iechyd Byd-eang gopïo rhybuddion iechyd sydd ar bacedi sigaréts – a phwysleisio fod prynu nwyddau penodol yn dinistrio ysgyfaint y blaned, yn hytrach nag achosi afiechyd i ysgyfaint person.
“Efallai fod datgoedwigo byd-eang yn swnio fel rhywbeth sy’n bell i ffwrdd, ond mae’r blaned yn colli ardal o goedwig sydd gyfwerth â naw gwaith maint Cymru’r flwyddyn, oherwydd ein bod ni’n prynu olew palmwydd, soi, coffi, ac oherwydd y papur rydyn ni’n ysgrifennu arno, a’r coed rydyn ni’n eu defnyddio i adeiladu.
“Fel man cychwyn, gallai Rhybuddion Iechyd Byd-eang gael eu gosod ar goffi a siwgr sydd ddim yn rhai Masnach Deg, ac ar olew palmwydd a soi sydd ddim yn gynaliadwy.”