Mae Comisiynydd y Gymraeg am gael gwybod pam na fydd ap brechu’r Gwasanaeth Iechyd ar gael yn Gymraeg.

Dywedodd Mark Drakeford na fydd yr ap ar gael yn Gymraeg er gwaethaf “sawl cais i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barchu’r gyfraith yma yng Nghymru”.

Dydi’r ap heb gael ei lansio yng Nghymru eto, a bydd rhaid i bobol wneud cais am dystysgrif dros y ffôn neu’n ysgrifenedig er mwyn profi eu bod nhw wedi cael eu brechu pan fydd yn cael ei lansio.

Unwaith “fydd system Lloegr yn llwyddo i wneud ei waith” bydd hi’n bosib defnyddio’r “un dechnoleg” yng Nghymru, meddai Mark Drakeford.

Bydd Aled Roberts, y Comisiynydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn cael eglurhad ynghylch pam na fydd y ddarpariaeth ar gael yn Gymraeg.

“Parchu’r gyfraith”

Cafodd y mater ei godi yn y Senedd gan yr Aelod Seneddol Llafur, Hefin David, a oedd wedi derbyn cwestiwn gan un o’i etholwyr yn holi pryd y byddai’r ap ar gael yng Nghymru.

“Mae’n wir nad oedd hi’n bosib i ap Cymru lansio’r un pryd a chafodd un y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ei lansio oherwydd rhesymau technolegol yn ymwneud yn fawr ag addasu’r un Saesnig i gwrdd â gofynion Cymreig,” meddai Mark Drakeford.

“Mae arna i ofn, Lywydd, na fydd e ar gael yn Gymraeg.

“Er gwaethaf sawl cais i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barchu’r gyfraith yma yng Nghymru; maen nhw’n dweud wrthym ni na fydden nhw’n gallu gwneud hynny am sawl mis arall, ond o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, rydyn ni’n disgwyl iddi fod yn bosib i ddinasyddion Cymru ddefnyddio’r un dechnoleg, ond nid drwy’r ap ond drwy bortal ar y we.

“Bydd y siwrne wedyn yr un fath yn union â’r ap, a bydd pobol Cymru’n gallu ei ddefnyddio yn yr un ffordd â’r system Saesneg sydd wedi bod ar gael yn Lloegr ers 17 Mai.”