Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cael ei annog i ofyn i gyngor Caerdydd gadw Stryd y Castell ar gau i geir preifat.

Ond amddiffyn penderfyniad Cyngor Caerdydd, a wnaed ddydd Iau diwethaf ar Ddiwrnod Aer Glân, i ailagor y ffordd brysur wnaeth Mark Drakeford.

Mae Stryd y Castell wedi bod ar gau i draffig preifat am flwyddyn, ac ar agor i fysiau a thacsis yn unig ers mis Tachwedd diwethaf.

Bydd y ffordd yn ailagor i geir preifat yn yr hydref.

Sbardunodd y penderfyniad brotest, a beirniadaeth gan gynghorwyr Llafur ar feinciau cefn y Cyngor – ac roedd yn destun dadl yn y Senedd yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, 22 Mehefin.

“Mae’n rhaid i ni symud pobl oddi wrth ddefnyddio ceir preifat”

Dywedodd Rhys ab Owen, AoS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru: “Mae cwynion yn Riverside, Grangetown a Phontcanna am gynnydd mewn lefelau llygredd. Mae’n rhaid i ni symud pobl oddi wrth ddefnyddio ceir preifat, ac nid yw ailagor ffordd yn ateb i hynny.

“Brif Weinidog, a allaf eich annog i siarad â chyngor Caerdydd a’u hannog i ystyried y symudiad hwn a chau Stryd y Castell unwaith eto i gerbydau preifat?”

Fodd bynnag, dywedodd Mr Drakeford fod cau’r ffordd wedi arwain at geir yn llygru strydoedd preswyl cyfagos hyd yn oed yn fwy. Ychwanegodd y byddai ailagor Stryd y Castell yn “diogelu” trigolion y strydoedd hynny rhag llygredd aer.

“Mae’r dewis y mae’r cyngor wedi’i wneud yn un anodd iawn,” meddai’r Prif Weinidog, “Nid oedd cau Stryd y Castell yn golygu bod pobl yn gadael eu ceir gartref. Fe’u harweiniodd i ddefnyddio eu ceir mewn ffyrdd eraill. Fe’u harweiniodd i ddefnyddio eu ceir i deithio drwy rai o rannau tlotaf ein dinas, lle nad yw ansawdd yr aer yr hyn y mae angen iddo fod.

“Cydbwysedd”

“Mae’r ffigurau y mae’r cyngor wedi’u cael, nid ganddynt hwy eu hunain ond gan ddadansoddwyr annibynnol, yn dangos bod cau Stryd y Castell wedi cael yr effaith andwyol honno ar strydoedd preswyl…

“Nid yw’n mynd yn ôl i bedair lôn o draffig o flaen y castell. Mae’n symud i ddwy lôn o draffig, gan ein bod wedi cytuno [cyn y pandemig] y byddai lonydd bysiau a beiciau’n cael eu hychwanegu.

“Bydd hyn, am y tro, yn amddiffyn y bobl hynny yn y strydoedd preswyl hynny yr effeithiwyd yn andwyol ar eu bywydau drwy gau Stryd y Castell.

“Dyna’r cydbwysedd y mae’r cyngor wedi’i daro, a hyd nes y gallwn wneud pethau tymor hwy i leihau’r defnydd o geir yn gyfan gwbl, mae’n gydbwysedd y gellir ei amddiffyn.”