Mae’r sefyllfa i gwmnïau teithio yn “hollol ofnadwy” yn sgil cyfyngiadau’r pandemig, yn ôl un trefnydd teithiau.

Yn ôl Rachael Biggs, sy’n berchen masnachfraint teithio yn Harlech, mae cyfuniad o brisiau’n codi, diffyg hyder, a pheidio â bod yn gymwys ar gyfer grantiau, yn golygu fod y sector “wedi’i daro’n andros o galed”.

Bellach, mae Rachael Biggs wedi gorfod cael ail swydd yn y sector lletygarwch oherwydd “bod rhaid”, ac mae hi’n galw am reolau a chyngor cliriach a mwy cryno i’r sector teithio.

Mae cannoedd o weithwyr o gwmniau teithio wedi casglu tu allan i San Steffan heddiw (23 Mehefin) er mwyn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am fwy o help, ac “achub eu swyddi”.

Ar hyn o bryd, mae 11 gwlad ar y rhestr werdd, a bydd yr adolygiad nesaf yn digwydd fory (24 Mehefin) gyda sôn y gallai Malta ac Ynysoedd y Balearig ymuno â’r rhestr honno.

“Hollol ofnadwy”

“Mae pethau wedi bod yn hollol ofnadwy,” meddai Rachael Biggs, sy’n berchen masnachfraint ar ran cwmni teithio Travel Counsellors.

“Dim just y rheoliadau yng Nghymru, y rheoliadau yn Lloegr, a dramor. Jyst achos bod yna wledydd ar y rhestr werdd, dydi e ddim yn golygu eu bod nhw’n barod i dderbyn ni.

“Does gan bobol ddim yr hyder i archebu gwyliau dramor, mae gan archebu yn y Deyrnas Unedig ei gymhlethdodau yn ei hun hefyd efo meintiau grwpiau, os ydych chi’n cael teithio…

“Mae yna lot o gwmnïau teithio, gan gynnwys fi, sydd wedi llithro drwy’r rhwyd pan mae hi’n dod at unrhyw grantiau sydd ar gael i ni.

“Er fy mod i wedi bod yn drefnydd teithiau ers dros 25 mlynedd, does gen i ond fy masnachfraint fy hun ers tair blynedd felly doeddwn i ddim yn gymwys am unrhyw grantiau oedd yn dod trwodd,” esboniodd wrth golwg360.

“Mae’r holl drefnwyr teithiau dw i’n gwybod amdanyn nhw wedi gorfod mynd allan a chael ail swydd, oherwydd mae’n rhaid i ni gael rhywbeth arall i ddod ag incwm mewn.

“Os allai oroesi’r flwyddyn hon, dw i’n gobeithio y bydd pethau’n gwella ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r ymholiadau’n dechrau cyrraedd.”

Prisiau’n codi

“Ond y broblem arall sydd gennym ni yw bod pobol wedi codi eu prisiau oherwydd eu bod nhw wedi colli arian, a dw i’n deall yn iawn,” eglurodd Rachael Biggs.

“Maen nhw wedi colli arian … felly mae prisiau wedi codi gan ei fod yn ddiwydiant cyflenwad-galw, a wastad wedi bod.

“Ond ar yr un pryd, dyw ein cyflogau ni heb godi i atodi at y cynnydd mewn prisiau.

“Mae hi’n anodd iawn. Mae’r diwydiant twristiaeth, a lletygarwch, wedi cael ei daro,” ychwanegodd Rachael Biggs gan esbonio fod ei gŵr yn rhedeg tafarn y Cross Foxes yn Nolgellau, ac yn cael trafferth dod o hyd i staff nawr.

“Rydyn ni’n cael ein taro’n andros o galed.”

“Mwy o gefnogaeth”

“Mae o’i gyd yn anodd. Dw i erioed wedi profi dim byd tebyg i hyn yn fy holl flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant teithio,” meddai.

“Mae e jyst yn rhywbeth rydyn ni angen mwy o gefnogaeth gydag e. Mae pawb angen mwy o gefnogaeth, ac rydyn ni angen rheolau a chyngor cliriach a mwy cryno.

“Rhywbeth y gallwn ni ei ddarllen, a mynd ‘ia, rydyn ni’n deall hynny’, dim pethau sy’n gwrthddweud ei gilydd, rhywbeth mae pawb yn gallu ei ddilyn.”