Mae’r ffigurau brechu diweddaraf wedi’u cyhoeddi gan bedair asiantaeth iechyd y Deyrnas Unedig.

Cymru sydd â’r gyfran uchaf o oedolion wedi’u brechu’n llawn o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, gyda 61.6% wedi derbyn y ddau bigiad (1,553,091 ail ddos).

Lloegr sydd nesaf gyda 60.4% (26,745,666 ail ddos), ac yna’r Alban ar 59.0% (2,617,450 ail ddos), a Gogledd Iwerddon ar 56.7% (823,908 ail ddos).

Yn y Deyrnas Unedig gyfan, mae cyfanswm o 31,740,115 o ail ddosau bellach wedi’u darparu ers i’r broses frechu ddechrau ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae hyn yn cyfateb i 60.3% o’r holl bobl 18 oed a throsodd.

Pigiad cyntaf

Unwaith eto, Cymru sy’n arwain gwledydd y Deyrnas Unedig, gydag 88.9% o oedolion wedi cael pigiad cyntaf, beth ffordd ar y blaen i’r Alban (83.0%), Lloegr (82.2%), a Gogledd Iwerddon (79.0%).

Mae pob oedolyn yng Nghymru bellach wedi cael cynnig dos cyntaf o frechlyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi dweud ei bod yn bwriadu cynnig dos cyntaf i bob oedolyn yn Lloegr erbyn 19 Gorffennaf.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd pob oedolyn yn cael ei archebu ar gyfer eu dos cyntaf o frechlyn erbyn 27 Mehefin, ac yng Ngogledd Iwerddon mae pob oedolyn wedi gallu archebu dos cyntaf ers 27 Mai.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod tua 82.5% o oedolion y Deyrnas Unedig bellach wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn.