Mae Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, wedi dweud y byddai’n “anrhydeddus” i Rob Roberts AS gamu o’r neilltu ar ôl torri polisi camymddwyn rhywiol y blaid Geidwadol.

Fe wnaeth Jacob Rees-Mogg y sylw wrth gadarnhau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â chymal sy’n osgoi gorfodi is-etholiadau ac wrth i Dŷ’r Cyffredin gymeradwyo cynnig i wahardd AS Delyn am chwe wythnos wedi iddo dorri rheolau camymddwyn rhywiol.

Mae Rob Roberts, sy’n Aelod Seneddol dros Ddelyn, yn wynebu cael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am chwe wythnos am aflonyddu’n rhywiol ar ddyn.

Mae e wedi colli’r chwip, ond mae’r gyfraith yn golygu na fydd e’n gorfod wynebu is-etholiad yn Nelyn gan fod y gosb wedi ei rhoi gan banel annibynnol yn hytrach na phwyllgor seneddol.

“Camu lawr”

“Yn dilyn achos mor ddifrifol â hyn, byddai’n anrhydeddus i’r aelod gamu lawr ar ôl colli’r chwip, rydyn ni angen edrych a yw’r broses yn rhoi cydbwysedd cywir rhwng y diffynnydd, gwarchod cyfrinachedd y cwynwr, a sicrhau canlyniadau cyson ar draws mathau gwahanol o achosion ymddygiad,” meddai Jacob Rees-Mogg wrth aelodau seneddol.

“Gallaf gadarnhau i’r Tŷ felly fy mod i wedi gofyn i gadeirydd panel arbenigol ac annibynnol am ei farn ynghylch a ddylid gwneud newidiadau i’r broses bresennol er mwyn caniatáu dechrau proses sbarduno is-etholiad.

“Yn fy marn i, dylai unrhyw newidiadau felly gael eu gwneud yn y ffordd symlaf bosib, a byddai’n well gennyf i, felly, petai’r datrysiad yn un sydd ddim yn ddeddfwriaethol.”

Dywedodd Jacob Rees-Mogg ei bod hi’n “hollol hurt fod gennym ni gosbau gwaeth ar gyfer rhywun sy’n defnyddio ychydig o amlenni’n anghywir nag ar gyfer rhywun sydd ynghlwm â chamymddwyn rhywiol”.

“Nid yw’n gymaint o fwlch [yn y ddeddf] â phenderfyniad gweithredol a gafodd ei wneud mewn ymateb i’r safbwyntiau a gafodd eu mynegi gan grwpiau staff eu bod nhw’n pryderu am faterion yn ymwneud â chyfrinachedd pe bai sbarduno is-etholiad yn cael ei ganiatáu ar gyfer achosion y Rhaglen Cwynion Annibynnol.

“Yn fy marn i, dw i ddim yn meddwl fod y pryderon hyn yn gymesur â’r angen i fod yn glir fod y Tŷ hwn, a phob gwleidydd, yn meddwl mai camymddwyn rhywiol yw’r lefel mwyaf difrifol o gamymddwyn.”

“Staen arnom ni”

Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin, Thangam Debbonaire, ysgrifennu at Jacob Rees-Mogg heddiw (Mai 27) yn cynnig gweithio’n agos gyda fe ar y mater.

“Hoffwn weithio gydag e, er mwyn mynd yn bellach ac yn gyflymach, a dw i’n cytuno fod yna ddatrysiadau sydd ddim yn rhai deddfwriaethol, oherwydd ym mha swydd arall fyddai rhywun sy’n camymddwyn yn rhywiol ddim yn wynebu colli eu swydd?” meddai.

“Mae yna ddatrysiadau ymarferol ar gyfer yr hyn a allai fod yn staen arnom ni i gyd os yw’r cyhoedd yn gweld fod rhywun sy’n camymddwyn yn rhywiol yn cadw eu swydd yma…

“Yn ddelfrydol, byddai’r aelod yn gwneud y peth anrhydeddus ac yn ymddiswyddo,” meddai, gan ychwanegu fod hyn yn mynd tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol.

“Mae’n ymwneud â’r Llywodraeth yn gwneud y peth cywir, mae’n ymwneud â chynnal gweithio diogel i’n staff – oherwydd dylai’r Senedd fod yn symbol o ymarfer da.”

Rob Roberts, aelod seneddol Delyn

Rob Roberts: Llywodraeth Prydain eisiau dileu cymal sy’n osgoi gorfodi is-etholiad ar AS Delyn

Bydd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Jacob Rees-Mogg yn gwahodd y “cyrff perthnasol” i ystyried a oes angen newid y cyfreithiau sy’n gorfodi is-etholiad