Mae angen rhagor o eglurder ynghylch pam bod Gwynedd wedi ei labelu’n un o siroedd lleiaf anghenus Cymru gan Lywodraeth San Steffan.

Dyna mae Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor y sir honno, wedi ei ddweud yn ystod sesiwn casglu tystiolaeth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin heddiw.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i ddyrchafu pob rhan o Brydain yn economaidd (levelling up) ac mae hi’n gobeithio y bydd y Gronfa Codi’r Gwastad (the Levelling Up Fund) yn cyfrannu at hynny.

Bydd cynghorau sir ledled y Deyrnas Unedig yn medru anfon ceisiadau am gyllid, ac mae pob un sir wedi ei rhannu mewn i dri grŵp blaenoriaeth gwahanol.

Gwynedd a Sir Fynwy yw’r unig ddwy sir yng Nghymru sydd yn y grŵp blaenoriaeth isaf, ac mae cwestiynau mawr wedi’u codi ynghylch hynny.

“Dyw’r criteria tu ôl y blaenoriaethu yn sicr ddim yn glir i ni ar hyn o bryd,” meddai Dyfrig Siencyn. “Am ryw reswm rydym yng nghategori tri yng Ngwynedd.

“Rydym wedi ceisio gwneud synnwyr o hynny. Ond dyw hi ddim yn teimlo fel codi’r gwastad yma i ni yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

“Mae yna ddiffyg eglurder. Ac mae’n rhaid i ni ddeall sut wnaeth y cronfeydd yma gael eu blaenoriaethu.”

“Rhaid cynnal trafodaeth ddwys ynghylch y ffactorau sydd yn cael eu hystyried wrth flaenoriaethu,” meddai wedyn gan ategu bod yna “bryderon” am y criteria.

Galw am “drafodaeth tair ffordd”

Mae’r Gronfa Codi’r Gwastad yn ddadleuol oherwydd bydd arian yn cael ei ddarparu i gynghorau sir Cymru yn uniongyrchol, ac mi fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hepgor o’r broses yn llwyr.

Yn siarad gerbron yr un pwyllgor fore heddiw mi rannodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei bryderon yntau am y cynlluniau a’u her i ddatganoli.

Pwysleisiodd Dyfrig Siencyn bod angen sicrhau “trafodaethau tair ffordd” rhwng Llywodraeth San Steffan, Llywodraeth Cymru, a chynghorau sir, ynghylch rhaglenni buddsoddi diweddar.

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac mi sefydlwyd y bwrdd yma er mwyn annog cydweithio rhwng chwe chyngor y gogledd.

Un o bryderon Dyfrig Siencyn yw y bydd rhaglenni buddsoddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dadwneud hyn oherwydd bydd cynghorau yn cael eu hannog i gystadlu yn erbyn ei gilydd am gyllid.

Amserlen dynn

Bydd yn rhaid i gynghorau anfon ceisiadau am gyllid y Gronfa Codi’r Gwastad erbyn Mehefin 18, ac mae hynny’n destun pryder hefyd.

Eglurodd Dyfrig Siencyn yn y sesiwn bod yr amserlen yma yn dynn ac y bydd cynghorau yn cael eu gorfodi i anfon ceisiadau ar ran y prosiectau mwyaf parod – nid o reidrwydd y prosiectau mwyaf uchelgeisiol.

Fe wnaeth Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf; Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe; a Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Powys; hefyd gyfrannu at sesiwn y pwyllgor.

Dywedodd Rob Stewart bod amserlen y gronfa yn “gyfyngedig iawn”, a dywedodd Rosemarie Harris bod cynghorau yn wynebu’r risg o “niweidio eu henwau da”.

Eu rhesymeg, mae’n debyg, yw taw cynghorau fydd yn cael eu cosbi gan y cyhoedd am unrhyw wendidau a diffygion â’r gronfa.