Byddai agor ffatri Tesla ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn hwb mawr i ddiwydiant ceir trydan Cymru, yn ôl Luke Fletcher AoS, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi.

Mae Tesla, Inc. yn gwmni cerbydau trydan ac yn ynni glân Americanaidd sydd wedi’i leoli yn Palo Alto, California.

Does dim dwywaith y byddai’r ffatri’n cael ei chroesawu ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn dilyn cau ffatri Ford yn yr ardal y llynedd.

Fe wnaeth y ffatri 40 oed gau ym mis Medi 2020, gyda thua 1,700 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Mae Luke Fletcher wedi ysgrifennu at Tesla i hyrwyddo’r hen ffatri fel safle posib ar gyfer ffatri Tesla newydd.

Yn y llythyr, soniodd Luke Fletcher am “etifeddiaeth pedwar degawd o fod yn gartref i sector gweithgynhyrchu ceir yng Nghymru”.

Dywedodd ei fod yn gyfle i “roi Cymru ar y map fel y lle i adeiladu ceir y dyfodol”, yn ogystal â dod â swyddi sgiliau uchel i ardal sy’n cael ei “distrywio gan gau Ford”.

“Mae gennym weithlu talentog yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd â’r set sgiliau a’r profiad i adeiladu ceir – byddai Tesla yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i safle gwell yn y Deyrnas Unedig”.

“Gallai hyn fod yn gyfle i roi hwb i’r diwydiant ceir trydan yma yng Nghymru a rhoi Cymru ar y map fel y lle i adeiladu ceir y dyfodol.”

‘Nifer o safleoedd posib yng Nghymru’

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yno nifer o safleoedd a fyddai’n gallu darparu ar gyfer cynlluniau i sefydlu ffatri Tesla gyntaf y Deyrnas Unedig.

“Er na allwn roi sylwadau ar hyn o bryd, rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar leoliadau ar gyfer buddsoddiad modurol newydd wrth i’r diwydiant fudo i ffwrdd o danwydd ffosil traddodiadol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae Cymru mewn sefyllfa dda i ddarparu ar gyfer y math hwn o fuddsoddiad, gyda nifer o safleoedd a allai gynnig lleoliad gwych ar gyfer cyfleoedd i fuddsoddi.”